Nodyn ar Gerfluniau Milwrol.
NID oes well ffordd i ymgydnabod ag arfogaeth y gwahanol gyfnodau na thrwy astudio cerfluniau marchogion. Fel y gellid tybied, nid yw Cymru mor gyfoethog mewn cerfluniau o'r fath ag yw Lloegr, er fod rhai i'w gweled mewn aml hen eglwys ddiarffordd.
Wrth gwrs, fe ofyn yr astudiaeth am y manylder mwyaf. Er enghraifft, bu newid o bryd i bryd yn y modd cywrain, cymhleth, yr hongid y cleddyf wrth y gwregys. Pwysig hefyd yw addurn y gwregys ei hun. Rhaid hefyd wybod rhyw gymaint am egwyddorion herodraeth a'r ystyr gyfrin sydd i ambell wahaniaeth a ymddengys i'r llygad cyffredin yn ddigon dibwys. Er enghraifft, y mae cerflun o un o'r Mortimeriaid yn eglwys Trefaldwyn; o syllu'n fanwl ar y bais arfau, gwelir bod ychydig wyrni ym mhrif linellau'r darian, a hefyd yng nghrib yr helm. Awgryma hyn nad efô oedd yr etifedd, ac mai trwy gwrteisi y cai wisgo pais arfau'r Mortimeriaid. Ar sail hyn fe dybir y dichon mai Edmund Mortimer, mab yng nghyfraith Owain Glyn Dŵr, oedd y marchog.
Yn Lloegr, newidiai'r dull arfogi gyda chryn sydynrwydd yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif. Prin, hwyrach, y newidiai'r ffasiynau milwrol lawn mor gyflym yng Nghymru, fel nad diogel yw ceisio dyddio cerfluniau Cymru wrth yr hyn a ddigwyddai yn Lloegr.
Y mae nodwedd neu ddwy yn perthyn i'r cerfluniau hyn a ddichon fod o darddiad Cymreig. Cariai'r marchog Normanaidd ei darian, fel rheol, ar yr ochr chwith, ond o flaen y corff y cariai'r marchogion Cymreig hi. Hefyd, ceir ar y darian yng Nghymru nid yn unig bais arfau'r marchog, ond hefyd ei enw wedi ei gerfio fel ymylwaith o amgylch y darian.
Fel y datblygai'r wisg o lafnau dur, lleihai'r darian, ac o'r diwedd diflannodd yn llwyr. Y mae bodolaeth tarian, felly, yn rhyw gymaint o gynhorthwy i ddyddio cerflun. Felly hefyd ei maint. Peidiwyd â defnyddio tariannau yn Lloegr—ond yn unig i osod allan y bais arfau—tua hanner olaf y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg gwisgid math o gob wedi ei gweu megis o ugeiniau o fân gadwynau dur. Dyma'r hauberk—y Ilurig (coat of mail). Weithiau gorchuddid y corff o'r pen i'r traed mewn gwisg o'r fath. Un o'r cerfluniau mwyaf diddorol a feddwn vw'r un sydd yn eglwys St. Bride, Sir Forgannwg, i John le Botiler, lle gwelir y marchog mewn gwisg o wead dur o'i gorun i'w sawdl. Nid yw'n eglur iawn sut y cysylltid y benwisg—sy'n edrych fel pe bai o'r un defnydd a'r llurig â'i gilydd. Dros y cwbl y mae swrcot laes, a chapan am ei ben, ac ar hwnnw ddarlun o boteli, yn ôl awgrym ei enw. Y mae darluniau cyffelyb ar y darian hefyd.