Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/328

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ceir nodweddion cyffelyb, ond yn graddol newid gyda'r blynyddoedd yng ngherfluniau Tremeirchion (y drydedd ganrif ar ddeg), Llanarmon yn Iâl (1350), a Llanuwchllyn (1370). Perthyn cerflun Syr John i ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg (1285).

Gellir gweled y datblygiad yn amlwg yng ngherflun un o'r Berkerolles yn Eglwys Llandathan. Yma y mae'r corff wedi ei orchuddio â'r llurig arferol, gyda choler ddur o'r un defnydd (coif de mailles). Dengys hwn yn eglur iawn y modd y cysylltid y goler â'r helm trwy redeg carai ledr trwy dyllau oedd yn yr helm a hefyd trwy fodrwyau'r wisg. Gorchuddir pen yr ysgwydd, y pen glin a'r pen elin, y cluniau a'r coesau a'r traed â llafnau o ddur. Perthyn hwn i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Gwelir yr un cyfuniad diddorol mewn cerflun yn eglwys Llanfair Caereinion, sy'n perthyn, fel y tybir, i'r flwyddyn 1405.

Erbyn canol y bymthegfed ganrif yr oedd y llafnau dur wedi ennill y dydd yn gyfangwbl. Nid oedd ran o'r corff nad oedd wedi ei ddiogelu â phlât dur, ac fel rheol trefnid i hwnnw gael ei wneud yn y fath fodd fel ag i beri i'r saethau a'r picellau neidio oddi arno yn hytrach na suddo iddo. Y mae gennym enghreifftiau da o'r arfogaeth hon yng ngherflun Thomas Bassett, Beaupré, yn eglwys St. Hilari, neu eiddo John ap Ellis Eyton, a fu farw ganrif yn ddiweddarach (1526), pan oedd arfogaeth wedi cyrraedd ei berffeithrwydd uchaf. Y mae'r cerflun godidog hwn i'w weled yn eglwys Rhiwabon.