ymosodol a'r gallu amddiffynnol. Perffeithrwydd amddiffyniad a geir yn y castell. Yn wir, cyrhaeddodd cestyll cerrig yr oesau canol y fath radd o berffeithrwydd fel mai amhosibl oedd eu darostwng heb newynu'r garsiwn neu dorri ymaith y cyflenwad dŵr trwy wenwyno'r ffynhonnau neu ryw ystryw cyffelyb. Ond rhoddodd darganfod y powdr gwn yr oruchafiaeth i'r ochr ymosodol, a darfu am ddiogelwch y castell am byth.
Gwyddys mai'r Gaer neu'r Ddinas oedd cadarnle yr hen Gymry gynt, ac nad oes odid foel yng Nghymru sydd mewn safle manteisiol na cheir un o'r dinasoedd hyn ar ei chorun. Maent, fel rheol, ar ben y mynydd, ac o ganlyniad mewn lleoedd amlwg, gerwin. Saif Caer Drewyn uwchben tref Gorwen, yn agos i 1,000 o droedfeddi uwchben arwynebedd y môr; Pen Dinas, Aberystwyth, 413 o droedfeddi; Moel Fenlli, uwchlaw Dyffryn Clwyd, 1,676 o droedfeddi, a'r Gaer, Llanbedr, Meirion, 1,225 o droedfeddi. At hyn, gorchuddir cryn fesur o dir ganddynt. Yn wir, Dinas yw'r gair gorau i'w disgrifio, oherwydd trefydd neu bentrefydd caerog ydynt, ac ynddynt y byddai'r bobl yn byw. Nid amddiffynfeydd rhyfel mohonynt, ond cartref beunyddiol cadarn, caerog, ac o'u chwalu ceir goleuni diddorol ar ddull ein hynafiaid o fyw. Pan ddaeth y Rhufeiniwr i'r wlad, fe ddewisodd ef safle llawer is a mwy cysgodol. Nid yw Caerhun ar Gonwy ond rhyw 60 troedfedd uwchlaw arwynebedd y môr; yn wir, nid yw ond ychydig yn uwch na llinell yr afon pan fo'n llif yn nyffryn Conwy. Saif y Gaer ym Mrycheiniog tua 500 o droedfeddi uwchlaw'r môr, ond nemor uwchlaw'r afon sy'n ei hymyl, ac y mae Caer Gai hefyd tua'r un uchder. Tomen y mur—900 troedfedd—yw'r gaer uchaf yng ngogledd Cymru.[1] Nid yw'r Gaer-yn-arfon fwy na rhyw 150 troedfedd uwchlaw afon Seint ac afon Fenai. Bechan iawn oedd y gaer Rufeinig—dim ond lle i ryw fagad o filwyr fedru byw'n ddiogel. Dibynnai'r Rhufeiniwr am ei ddiogelwch nid ar gadernid y gaer ei hun, ond ar y ffaith bod ei gaer mewn cysylltiad cyson, trwy gyfrwng y priffyrdd hwylus, â chaerau eraill, ac y gellid ar hyd y priffyrdd hynny anfon lleng gref o filwyr i amddiffyn unrhyw gaer a fyddai mewn trybini. Pan oresgynnwyd yr hen ymherodraeth a thorri'r cysylltiad organyddol oedd wedi clymu caer wrth gaer am gannoedd o flynyddoedd, peidiodd
- ↑ Y mae'r gaer fechan gerllaw Llanfaircaereinion rhyw 1,020 troedfedd uwchlaw'r môr, fel mae y hi yw yr uchaf yn y Gogledd."