Orderic Vitalis,[1] Norman a fagwyd ar ororau Cymru, mai ychydig o'r hyn a elwid yn gestyll oedd gan y Saeson cyn dyfod y Norman. Mwy na hyn, ceir nifer ohonynt yng nghanol y wlad yng Nghymru lle na fedrodd y Saeson dreiddio erioed. Erbyn hyn, nid oes le i amau mai'r Norman biau'r castell, ond nid yw hynny yn golygu nad oedd rhai yn bod cyn 1066.
Diddorol yw sylwi mai ar ororau Cymru, yn swydd Henffordd, yr adeiladwyd y cestyll hyn gyntaf, y mae'n debyg. Yr oedd hynny yn nyddiau Edward Gyffesydd, gŵr oedd â mawr gariad at bopeth Normanaidd. Efô a roddodd hen dref Henffordd yn eiddo i Rolff, mab ei chwaer, ac efô a ddaeth â haid o farwniaid Normanaidd, fel Richard fab Scrob, Osbern Bentecost, ac eraill, gydag ef.[2] Yn fuan iawn ceir hwy yn adeiladu "cestyll" o amgylch Henffordd, fel Castell Richard, ryw ugain milltir i'r gogledd, a chastell Ewyas, ryw ddeuddeng milltir i'r gorllewin, a adeiladwyd gan Osbern Bentecost. Saif y domen yr adeiladodd Rhisiart ei gastell arni o hyd, a bu castell Ewyas yn adeilad o gryn bwys unwaith. Yr oedd rhyw gyfran o'r muriau ynghyda'r capel yn sefyll yn nyddiau Leland.[3] Dengys yr atgasedd a deimlid at y Normaniaid trahaus hyn beth oedd barn y Saeson amdanynt, a'r gorthrwm a ddeilliai o'r cestyll. Gorfu i Bentecost adael ei gastell yn y man, a disgynodd y gwaith o'i ail-adeiladu yn nyddiau'r Concwerwr i ran William Fitzosbern, Iarll Henffordd—un o'r gwŷr a fu'n ymladd o blaid William yn Selnac pan syrthiodd coron Loegr i'w ran.
Ffurfir y castell Normanaidd o ddwy adran, y Domen—neu y "Motte" fel y galwent hwy ef—a'r Beili. Dewisid lle cadarn i osod y castell arno, weithiau ar ben craig fel Harlech; bryd arall ar fryncyn yn codi ychydig uwchlaw arwynebedd y dyffryn, fel Tomen y Rhodwydd ar y ffordd rhwng Wrecsam a Rhuthyn. Dro arall fe'i ceir bron ar lawr y dyffryn, a'r domen yn codi ohono; ond pa le bynnag y ceir ef, a pha mor wych bynnag y dichon yr adeilad fod, ni all guddio'r ddwy adran y gwneir ef ohonynt.
Nid oes, fe ddichon, well enghraifft o gastell o'r fath na chartref Glyn Dŵr yn Sycharth, "Buarth y Beirdd." Yn gyntaf, ceir tomen a ffos ddofn o'i hamgylch—dyna " Motte "