Ceir pyrth eto yn y muriau hyn i gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin fel o'r blaen. Yna ceir y ffos, neu'r llyn fel a geir yng Nghaerffili. Ym mhen gorllewinol y llyn yr oedd lle pwrpasol cadarn a phont yn arwain drosto i'r castell. Yma y byddid yn arfer llochesu'r anifeiliaid. Ar du'r dwyrain yr oedd mur cadarn arall a thu allan i hwnnw ffos arall. Y tu ôl i'r mur yma yr oedd y felin ac adeiladau eraill. Gelwir castell o'r fath yn gastell creiddiol (concentric). Cyn y gellid ei orchfygu, rhaid oedd torri trwy fwy nag un haen, ac ni lwydd— odd neb i orchfygu castell Caerffili yn ystod yr oesau canol.[1] Gwelir y cynllun yn ei berffeithrwydd yng Nghaerffili, i fesur llai perffaith ym Miwmares, a llai drachefn yn Harlech.
Y mae gennym gryn lawer o fanylion ynglŷn ag adeiladu cestyll y gogledd, trwy fod Gwynedd wedi syrthio i ddwylo brenin Lloegr a bod rhaid i'w swyddogion ef roi cyfrif manwl o'u goruchwyliaeth. Dechreuwyd adeiladu, yng Nghaernarfon, Conwy a Harlech, cyn diwedd 1283, ac yng Nghricieth a'r Bere yn union wedyn. Yn ystod 1284 gwariodd Edward dros £7,000 ar y tri chyntaf yn unig ac mewn saith mlynedd yr oeddis wedi gwario cymaint arall a hynny, a chafwyd cryn drafferth i gael digon o arian i yrru'r gwaith yn ei flaen.[2] Byddai gwrthryfeloedd y Cymry hefyd yn ymyrryd â'r gwaith; er enghraifft, gwrthryfel Rhys ap Meredydd yn 1287, pryd, meddir, y cymerodd John de Havering, cwnstabl castell Caernarfon, gynifer â 120 o seiri coed a maen, gofaint a chwarelwyr, gydag ef i ymladd. Yr oedd y rhan fwyaf ohonynt, y mae'n sicr, yn gweithio ar y castell. Codwyd gwrthryfel arall yn 1294, pryd y llwyddodd y Cymry i gymryd y dref a'r castell.[3] Henry de Ellerton oedd y pensaer neu'r cynllunydd. Gweithiai am 14/- yn yr wythnos, ac y mae ei gastell a'i rimyn carreg goch yng nghanol y lwyd gyda'r harddaf, os nad yr harddaf oll, o gestyll Ewrop. Cai'r clerc 2/7½ yn yr wythnos. Wyth geiniog y dydd ydoedd cyflog saer maen. O chwarel Aberpwll y cafwyd y garreg, a byddai pump o Gymry yn rhwyfo'r cwch a'i cyrchai. Yr oedd rhyw gymaint o'r gwaith yn orfodol. Byddai raid i'r taeogion gynt, yn ôl cyfraith Hywel, gymryd eu rhan yn adeiladu llys y brenin, a chymerodd Edward fantais ar yr hen arfer i adeiladu ei gestyll.
Tebyg oedd pethau ar y gororau. Tenantiaid Llanfair Muallt fu'n cludo coed at wneud y castell yno, a chymydau