Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/340

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Caerfyrddin a Cheredigion oedd yn gyfrifol am gludo coed i'r cestyll yn y siroedd hynny.

Amcan y castell, wrth gwrs, ydoedd cadw'r brodorion i lawr, a diddorol felly yw sylwi ar y garsiwn a gedwid ynddynt a'r celfi rhyfel oedd ar arfer yn eu mysg. Ymddengys fod mwy o filwyr yng nghestyll y gogledd yn ystod y blynyddoedd cyntaf nag a fu yno byth wedyn, oddieithr pan fyddai gwrth— ryfel yn galw am chwyddo'r nifer. Yr oedd yng Nghaernarfon ddeugain o filwyr, yn cynnwys pymtheg o saethwyr â'r bwa croes (wedi hyn y daeth y bwa hir i fri), un capten, un saer maen, un saer coed, un gof, un caplan, a deg o wasanaethyddion eraill, heblaw cwnstabl y castell.[1] Byddai'r nifer yn newid o dro i dro, ond dyma'r nifer, y mae'n debyg, pan fyddai'r garsiwn ar ei mwyaf. Ar ôl gorffen adeiladu cestyll, syrthiodd aml swydd i ddiddymdra, ond rhaid oedd cael rhywun a fedrai edrych ar ôl y darpariadau milwrol, ac yr oedd y saer maen yn angenrheidiol o hyd i ofalu am yr adeilad, ond erbyn dyddiau Elisabeth yr oeddynt oll wedi diflannu ag eithrio'r Cwnstabl a'r Drysawr.[2]

Swydd o gryn bwys oedd eiddo'r cwnstabl, oherwydd efô a fyddai maer y dref yn ogystal â chwnstabl y castell. Byddai bywyd politicaidd ac economaidd ansicr y dref Normanaidd dan ei ofal yn ogystal â bywyd milwrol y castell, ac oherwydd hyn, Sais neu Norman a fyddai'n gwnstabl fel rheol. Fel arfer, rhyw gant o farciau yn y flwyddyn fyddai ei dâl, a disgwylid iddo fedru cadw nifer penodedig o filwyr allan o'r cyflog hwnnw. Os gofynnid iddo gadw mwy na'r nifer penod— edig, câi dâl ychwanegol. Ni byddai'r nifer y disgwylid iddo eu cadw yn fwy na thua un ar bymtheg, ar gyfartaledd, a chedwid llai na hynny yn aml. Deg neu ddeuddeg fyddai ym Miwmares fel rheol, ac wyth neu ddeg yng Nghonwy, a phender— fynodd y Tywysog Du gadw pump yng Nghricieth ar ei gost ei hun, a thalu iddynt 4c. yn y dydd. Erbyn amser y Tudur— iaid, yr oedd y cestyll wedi mynd bron yn ddiwerth. Dywed Bulkeley, yn 1539, fod Conwy, Caernarfon a Harlech yn y fath gyflwr na ellid eu hamddiffyn am ddiwrnod, ac nad oedd Biwmares fawr gwell.[3]

Un o brif anawsterau bywyd y castell, wrth gwrs, ydoedd sicrhau bwyd a diod i'r sawl oedd yn gorfod byw yno. Rhaid

  1. Lewis op. cit., 25, 105 et. seq.
  2. Ibid., 114.
  3. Ibid., 112.