oedd nid yn unig ddarparu ar gyfer anghenion beunyddiol, ond hefyd gadw mewn cof y posibilrwydd iddynt gael gwarchae arnynt. Nid rhyfedd, felly, y pwys a roddid ar y Stôr Fawr, chwedl pobl Caernarfon. Mesurai ysgubor Castell Caernarfon, a adeiladwyd rhwng 1315 a 1322[1] , ugain troedfedd bob ffordd, ac ysgubor Harlech bymtheg troedfedd wrth ddeg troedfedd ar hugain. Erys yn y rhan fwyaf o'r cestyll olion yr hen neuaddau lle byddid yn gwledda gynt. Mesura un Caernarfon tua 100 X 44 troedfedd, gyda'r uwchlawr (dais) yn y pen gorllewin a'r gegin ar draws y Beili yn ochr Tŵr y Ffynnon. Yma hefyd yr oedd y bragdy, a gwelir eto ôl y crochannau lle bu'r brâg yn furum unwaith. Neuadd neilltuol yw'r un yng Nghastell Harlech, a adwaenir yn y llawysgrifau fel "Styngwerne Halle.' Mesura 15 X 42 troedfedd, a dygwyd hi yno o Ystumgwern, hen faenor a berthynai i Lywelyn y Llyw Olaf. Adeilad coed ydoedd, yn ddiamau, fel nad oes dim bron yn aros, ond yn yr hyn a wyddom amdani cawn batrwm o hen neuadd y tywysog Cymreig.[2]
Pwysicach na dim oedd y ffynnon, a'r syndod yw sut y llwyddid i gael dŵr mewn lle fel Castell Dinas Brân, ond wele yno "mae ffynnon lân i 'molchi." Yn Nhŵr y Ffynnon y mae ffynnon Castell Caernarfon, a ffynnon Castell Harlech yn y graig dan y mur gerllaw'r popty. Y mae ffynnon Castell Caernarfon yn 45 troedfedd o ddyfnder, gyda chwe throedfedd yn y graig, ac nid oes byth brinder dŵr yno.
Un amcan wrth sefydlu tref wrth droed castell oedd ceisio sicrhau'r nwyddau angenrheidiol trwy gyfrwng masnach. Ond nid oedd Edward yn fodlon i ymddiried ar drugaredd y Cymry am ymborth i'w gestyll. Trefnodd fod i bob castell gael cyfran o ymborth gan bob cymwd yn ei gymdogaeth; er enghraifft, cymydau Creuddyn, Arllechwedd Isaf ac Uchaf, a Nantconwy oedd i ofalu am stôr Conwy. Oddi ar law Nant— conwy, gofynnid bustach a hanner a buwch a hanner, neu eu gwerth, sef 25/— bob blwyddyn. 11/8 oedd y swm a ofynnid oddi ar Greuddyn. Yn yr un modd, câi Caernarfon yr un swm gan Uwchgwyrfai, Isgwyrfai, a 16/8 o Dinllaen, a chyffelyb oedd y drefn ynglŷn â'r cestyll eraill.[3] Y mae'n ddigon tebyg i Edward ddarganfod mor hwylus oedd adfywio un arall o hen ofynion cyfraith Hywel Dda, sef y dawn bwyd a oedd yn ddyledus i arglwydd y cymwd.