Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/343

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er i'r arglwyddi Cymreig fabwysiadu'r cynllun Normanaidd o adeiladu cestyll, perthyn i rai ohonynt nodweddion a'u gwahaniaetha, i fesur beth bynnag, oddi wrth greadigaeth y Norman ei hun.

Dewisai'r Cymro, fel rheol, safle mwy anhygyrch, fel Deganwy neu Gaer Gynan, neu Harlech, lle y mae'n debyg yr oedd castell cyn dyddiau Edward, ond yr oedd cestyll y Norman mewn lle— oedd is ac yn fynych iawn ar lan afon, ychydig uwchlaw llanw'r môr, fel y mae cestyll Conwy, Caernarfon, Llanstephan, Cydweli, Caerfyrddin ac eraill. Dichon y gwelir y cynllun nodweddiadol Gymreig ar ei orau yng nghestyll yr Arglwydd Rhys yn Ystrad Tywi. Yr oedd y llanw Normanaidd eisoes wedi llifo dros Fro Morgannwg ac wedi cyrraedd Penfro a gwaelod Ceredigion, ond parhai Ystrad Tywi ym meddiant y tywysogion Cymreig o hyd, er bod Caerfyrddin, ar drothwy eu hetifeddiaeth, yn nwylo brenin Lloegr, a Llanstephan a Chyd— weli yn eu hatal rhag ymestyn eu terfynau.

Yn Ninefwr, fel y gwyddys, yr oedd prif lys tywysogion y de, ac yno adeiladwyd castell cerrig cadarn. Saif y castell uwchben hen dref Landeilo ar ddarn o dir sy'n ymestyn i gyfeiriad afon Dywi. Y mae dwy ochr i'r clogwyn y saif arno yn hollol syth, a'r drydedd—yr unig un y gellir ei dringo—yn serth iawn. Nid oes i'r castell ond un cwrt, a chynnwys hwnnw gorun y bryncyn i gyd. Y mae ynddo dri thwr nodweddiadol —dau ohonynt yn sgwâr, a'r trydydd yn grwn ar lun y donjon a geir yng nghastell Penfro. Dengys y mân ystafelloedd sydd yn y tyrau hyn mai yma y trigai teulu'r Arglwydd Rhys.

Ymhellach i lawr afon Dywi, i gyfeiriad Caerfyrddin, ar fryncyn lle culha'r afon ac y ceir cyfle godidog i wylio symud— iadau gelynion o gyfeiriad Caerfyrddin, saif castell y Dryslwyn, yntau eto mewn safle hynod gryf. Ond y mwyaf anhygyrch ohonynt i gyd yw castell Caer Gynan, neu Gerrig Cennin, fel y gelwir ef weithiau oddi wrth y dyffryn cul y saif ynddo. Ymgyfyd ei dyrau fel petaent wedi tyfu o'r graig, ac ni ellir dringo ato ond o un cyfeiriad yn unig. Y mae nodweddion arbennig hefyd yn perthyn i'r adeilad. Y mae'n debyg y teimlai Rhys y buasai Caer Gynan yn lle ardderchog i ffoi iddo pe cymerid ei gestyll eraill. Ysgwâr yw'r adeilad, ac nid oes yma olion eraill o fath yn y byd am y rheswm syml nad oedd eisiau amddiffynfeydd ychwanegol mewn lle mor gadarn. Y mae iddo nifer o dyrau, rhai yn grynion ac eraill yn ysgwâr. Ymddengys un ohonynt fel pe bai wedi ei lunio yn y fath fodd