Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/345

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfnod. Er hynny, byddai cestyll, er cryfed oeddynt, yn syrthio o bryd i bryd. Syrthiodd Harlech, er ei gadernid, dair gwaith yn ystod y bymthegfed ganrif yn 1404 i Owain Glyn Dŵr, yn 1408 i'w elynion, ac yn 1468 i William Arglwydd Herbert yn ystod Rhyfel y Rhosynnau.[1] Bu hir y brwydro bob tro, a newyn yn y diwedd a roddodd y fuddugoliaeth i'r gwarchaewyr.

Y mae'r peiriannau ymosod hefyd yn haeddu sylw. Un ffordd hwylus ac effeithiol oedd taflu pont dros argae'r castell a gosod ysgol i orffwys ar y mur ac yna i nifer o filwyr fyned i fyny ar hyd-ddi ac i lawr un arall yr ochr draw cyn ddistawed ag y medrent. Gwneid hyn fel rheol yn nyfnder nos, a'r syndod yw mor aml y llwyddai'r ystryw. Dywedir bod gan Lyn Dŵr nifer o ysgolion o'r fath, yn ogystal â pheiriannau, pan ymosododd ar gastell Caernarfon yn 1404.[2] Cyn y gallai cynllun o'r math yma lwyddo, rhaid oedd dal y garsiwn pan na byddent ar eu gwyliadwriaeth, ac nid yn aml y byddai hynny. Wedi methu o gynllun dirgelaidd disymwth o'r fath, nid oedd dim i'w wneud ond dwyn y peiriannau ymosod at y gwaith. Un o'r taclau mwyaf adnabyddus ydoedd math ar dafl—beiriant a adwaenid fel "trebuchet," ac a ddefnyddid i daflu cerrig. Dywed un hen awdur Ffrengig y gellid anelu mor gywir gyda'r peiriant hwn nes y medrid "taro nodwydd." "rhaid Pan ddefnyddir ef wedi nos," medd yr un awdur, rhoi golau wrth yr ergyd er mwyn cael gweld lle y tery." Yr oedd hefyd beiriant arall a adwaenid fel "arbalast"[3] ; fe daflai hwn saethau blaenllymion gyda'r fath rym nes yr aent trwy nifer o ddynion y naill ar ôl y llall. Fe'i defnyddid ef hefyd i daflu ffagodau i'r castell.

Anaml y defnyddid yr hwrdd, am nad oedd yn ddigon cryf i dorri i lawr furiau trwchus yr oesau canol; a hyd yn oed pe medrid curo'r drws derw i mewn gyda'r hwrdd yr oedd y portcullis wedyn sef y glwyd bigfain, wedi ei gosod mewn ffram, oedd yn cael ei chodi a'i gostwng hwyr a bore.

Yr oedd y tŵr ymosod yn beiriant lled boblogaidd. Tŵr oedd hwn o uchder mur y castell, a grisiau oddi mewn iddo i'r milwyr ddringo i'w ben. Oddi ar ben y tŵr gallent ymladd law yn llaw â'r sawl fyddai ar furiau'r castell, neu fwrw ffagodeu ar yr adeiladau y tu mewn i'r mur.

  1. Harlech Castle Official Guide, 6, 7, 8.
  2. Lewis op. cit., 251.
  3. Fel y dengys yr enw, math ar ddatblygiad peiriannol o'r bwa croes oedd yr "arblast." Yr oedd "arblast" yn enw cyffredin ar y bwa croes ei hun.