Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/347

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mwy effeithiol o lawer oedd cloddio dan seiliau'r muriau a'r tyrau a gosod rhes o goed i ddal y pwysau tra byddai'r mwynwyr wrth y gwaith ac yna eu llosgi. Syrthiai'r mur yn ei bwysau, a rhuthrai'r ymosodwyr i mewn trwy'r bwlch. Byddai gan y mwynwyr hyn, fel rheol, ryw fath o do uwch eu pennau, a defnyddid pob ystryw gan garsiwn y castell i'w ddinistrio—megis trwy hyrddio cerrig neu dywallt dŵr neu olew berwedig arno. Yr oedd yn y prif gestyll lwybr crog y tu allan i furiau'r castell, ac ynddo wagle yma ac acw, a thrwy y rhain y bwrid pethau o'r fath, Yr oedd yn y castell, wrth gwrs, arfau tebyg i'r arfau hyn, a bwrid saethau allan yn gawodau trwy ugeiniau o agennau pwrpasol. Sonia y Brutiau am Hywel ab Owen Gwynedd yn gwneuthur peiriannau a fwriai gerrig mawrion ac "a dorrai muriau mewn modd rhyfeddawl.' Y mae ar gael gân gan Gynddelw Brydydd Mawr yn disgrifio "Tŵr Cynfael yn cwyddaw" (cwympo) o flaen ei ymosodiadau, a dywed Brut y Tywysogion ddarfod i Hywel ymosod ar Gastell Cynfal yn 1146.

Cyfeirir at beiriant ymosod yn hanes yr ymosod a fu ar gastell y Dryslwyn. Dechreuodd yr ymosod ar y pymthegfed o Awst, 1287, ac yr oedd gan y brenin gynifer ag 11,000 o filwyr. Am ryw bythefnos yn unig y parhaodd y gwarchae. Llwyddodd y peiriant i dorri trwy fur y capel, a chloddiodd y mwynwyr dan ei sail a llanwasant y ffos. Syrthiodd rhan o'r mur, fodd bynnag, ar William de Montchensy a marchogion eraill, ond er hynny syrthio a wnaeth y castell, a hynny ar y pumed o Fedi.[1]

Wedi iddo orffen ei waith yn y Dryslwyn, aed â'r peiriant i Gastell Newydd Emlyn.[2] Yr oedd gosgorddlu cryf yn ei wylio ar y daith; yr oedd yno dri marchog a'u ceffylau barbediog,[3] pob un yn cael 1/- yn y dydd, 18 o farchogion eraill ar geffylau, ond heb fod yn arfog, ar gyflog o 6d. y dydd, a 4,630 o wŷr traed yn cael 2d. y dydd. Yr oedd 16 o geffylau a nifer o ychen at wneud dim ond cario plwm a cherrig i'r peiriant eu taflu. Rhoir cyfrif o gyflogau'r seiri a'r gofaint a fu'n codi'r peiriant, a cheir sôn am ddau beirianydd—hwy oedd yn ei weithio, y mae'n debyg.

Wedi'r cyfan, fodd bynnag, gelynion pennaf y cestyll oedd newyn a haint a phrinder dŵr. Rhyfedd mor llwyddiannus oeddynt i ddyfod o hyd i ddŵr mewn lleoedd fel Harlech

  1. Oman Castles, 189.
  2. Cymmrodor, XXXII, 74
  3. Barbed" yw'r term a ddefnyddir am arfogaeth y ceffyl.