neu Gastell Cynan. Y mae yn yr olaf risiau yn disgyn i lawr at y ffynnon yng nghrombil y clogwyn. Ond er gwyched eu cyflenwad dŵr, prin yr oedd gastell yn y wlad na byddai raid iddo ildio os medrai'r gelynion barhau i'w warchae a chadw nwyddau ac adgyfnerthion draw. Felly y bu yn Harlech yn y blynyddoedd a nodwyd. Yr oedd golwg druenus iawn ar deulu Glyn Dŵr pan syrthiodd y castell i ddwylo'r Saeson yn 1409, a chyffelyb oedd hanes y Normaniaid gwarchaeedig pan gymerodd Glyn Dŵr ef ryw bum mlynedd cyn hynny.
Y mae ar gael lythyr torcalonnus wedi ei sgrifennu gan un o farchogion Edward I pan oedd y brenin hwnnw yn adeiladu castell Conwy. Yr oedd Edward ei hun, fe ymddengys, yng nghastell Deganwy ar y pryd, a'r milwyr mewn pebyll gerllaw, a'r Cymry yn effro iawn i weld eu cyfle i ymosod arnynt. "His Majesty the King is staying with his army at Gannock (Deganwy) for the purpose of fortifying a castle (Conwy) which is now built in a most strong position there, and we are dwelling round it in tents employed in watchings, fastings and prayers and amidst cold and nakedness. In watchings through fear of the Welsh suddenly attacking us by night, in fastings on account of a deficiency of provisions, for a farthing loaf now costs five pence, in prayers that we may soon return home safe and uninjured and we are oppressed by cold and nakedness because our houses are of canvas and we are without winter clothing.
There was a time indeed when there was no wine in the king's house and indeed not amongst the whole army except one cask only. A measure of corn cost 20/—, a pasture ox three or four marks, and a hen was sold for eight pence. Men and horses consequently pined away and numbers perished from want."[1]
Wrth gwrs, estroniaid oedd gwŷr y castell, yn byw yng nghanol gelynion, ond yng nghywydd Iolo Goch ceir darlun o dywysog Cymreig yn byw ar ei dir ei hun, a gwelir ur unwaith fod o gylch Sycharth ddarpariaeth lled helaeth at angenrheidiau bywyd.
Siopau glân glwys, cynnwys cain,
Siâb landeg fal Siêb Lundain.
Croes eglwys, gylchlwys galchliw,
Capelau a gwydrau gwiw;
- ↑ Matthew Paris, II, 110. Bohn's Antiq. Library