Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/362

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd noddfa hefyd yng Nghaergybi ym Môn, yn Aberdaron yn Llŷn, ac ym Mhennant Melangell ym Mhowys. Hawlid y nawdd hefyd gan ysbytywyr St. Ioan. Yr oedd eu tir, yng nghymdogaeth Ysbyty Ifan, fel ogof lladron o'r herwydd, yn ôl tystiolaeth Siôn Wynn o Wydir. Yr oedd yr un fraint mewn perthynas â thir a ddelid ganddynt yng Nghydweli, lle ceir yr enw Sintor yn aros hyd heddiw.[1]

Dengys yr hanesyn a ganlyn o Frut y Tywysogion bwysig- rwydd y nawdd hwn. Yn y flwyddyn 1112 yr oedd Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr, tywysog y De, ar ymweliad â Gruffydd ap Cynan, pan oedd hwnnw ar fedr ei fradychu i frenin Lloegr. Daeth Gruffydd ap Rhys i wybod hyn, a diangodd. "A braidd yr aeth ef trwy y drws, nachaf y marchogion yn dyfod i'w geisio. Ac ni allodd amgen na chyrchu eglwys Aberdaron ar nawdd. Ac wedi clybod o Ruffydd fab Cynan ei ddianc i'r Eglwys, anfon gwŷr a orug i'w dynnu ef o'r Eglwys allan. Ac ni adawodd esgyb a hanafiaid y wlad hynny rhag llygru nawdd yr eglwys. Ac wedi ei ollwng o'r eglwys, efe a ffoes i'r Dehau, a daeth i Ystrad Tywi."

Ond nid oedd y ffoadur i gael aros yn yr eglwys am amser amhendant. Dywed Fleta mai deugain niwrnod o amser a roddid iddynt i adael y wlad ar ôl cymryd llw'r noddfa, a gwnaeth Edward I, yn ystatud Cymru, 1284, drefniant ynglŷn â'r cyfryw. Cyn gynted ag y deuai i glyw'r crwner fod llofrudd neu leidr neu ddrwg-weithredwr o'r fath wedi derbyn nawdd, archai hwnnw ar feili'r cymwd ddwyn ato wŷr da'r gymdogaeth i gymryd llw o ymwadiad o enau'r drwg- weithredwr ei hun. Yna dygid y truan i borth yr eglwys, rhoddai'r crwner enw porthladd iddo, a rhaid oedd iddo gyrchu tuag yno yn ddioed gyda'r amcan o fyned allan o'r wlad. Rhoid amser penodedig iddo dramwy yno, yn ôl fel y byddai'r pellter, a rhoid croes yn ei law. Rhaid oedd iddo gario'r groes honno fel arwydd ei fod o hyd yn mwynhau nawdd yr eglwys, ond nid oedd i droi allan o briffordd y brenin ar dde nac ar aswy gan nad beth fyddai'r cymhelliad.[2] "Nid oedd gwregys am ei lwynau nac esgidiau am ei draed na dim ar ei ben, ond ei grys yn unig amdano fel pe byddai ar y ffordd i'r crocbren" (Fleta).

Y mae yng nghofnodion Rhuthyn ddwy enghraifft o wragedd yn gorfod cymryd llw i adael y wlad. Angharet o Faner

  1. Y Cymmrodor, XXV, 97.
  2. Bowen op. cit., 9.