tra byddai ef yn y gwasanaeth.[1] Dengys hunangofiant Arglwydd Herbert o Chirbury mai tebyg oedd cyflwr pethau ym Maldwyn. Un bore Sul ymosodwyd ar ei dad, Richard Herbert, ym mynwent Llanerfyl, a thrawyd ef i lawr â chryman gan rywun neu'i gilydd.[2] Dywed Siôn Wynn fod arglwyddiaeth y Waun dros dymor yn asgwrn cynnen rhwng dau deulu ar y goror—Kyffin a Threfor—a ffyrnig fu'r cweryla rhyngddynt. Yr oedd cymaint anhrefn ym mhlwyf Llanrhaeadr yn nyddiau'r Doctor Morgan oherwydd cwerylon rhwng teuluoedd fel na feiddiai'r doctor fyned i'r gwasanaeth heb ryw gymaint o arfau.[3]
Yn ôl y Brut, yr oedd y gwylliaid yn llechu ym Mawddwy mor fore a 1154, a rhoddwyd pen arnynt yn 1554-ysbaid o bedwar cant o flynyddoedd. Nid oes sicrwydd parthed eu cychwyn, ond dywedir i Owen ap Cadwgan ap Bleddyn dynnu gwg Harri I am iddo trwy drais gario ymaith Nest, merch brydweddol Rhys ap Tewdwr-gwraig Gerallt de Windsor a nain Gerallt Gymro—ac iddo ffoi am ei einioes i'r ardal ramantus hon a chymryd trigain o filwyr ei dad gydag ef. Ychwanegwyd atynt o dro i dro, a lled awgrymir mai i Fawddwy y ffodd y nythiaid lladron yr ymosododd Siôn Wynn arnynt yn Ysbyty Ifan.
Er bod eu harweinyddion yn dal rhai o brif ffermydd yr ardal, lladron pen ffordd oedd y gwylliaid, a dygent wartheg a'u gyrru yn yrroedd o gant neu ragor dros Fwlch y Groes neu Fwlch Oerddrws neu Fwlch y Fedwen liw dydd glân golau.
O'r diwedd anfonodd y llywodraeth orchymyn i'r Barwn Owen o Ddolgellau a Siôn Wyn o Wydir i geisio cael ymwared â'r gwylliaid. Ar y 24ain o Ragfyr, 1554, anfonwyd bagad o wŷr arfog i ymosod ar eu ffeuau, a chymerwyd cynifer â 80 ohonynt i'r ddalfa. Dedfrydwyd y cwbl ohonynt i farwolaeth ym mrawdlys y Trallwng. Ymhen tua blwyddyn ar ôl hyn, yr oedd y Barwn Owen eilwaith ar daith i frawdlys Maldwyn. Pan oedd yn pasio trwy'r Dugoed, wrth le a adwaenir hyd heddiw fel Llidiart y Barwn, syrthiodd y gwylliaid arno a'i ladd, a dywedir i rai ohonynt yn eu cynddaredd olchi eu dwylaw yn ei waed, yn ôl y bygythiad a wnaed gan eu mam yn y frawdlys y flwyddyn cynt.