Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/366

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn nechrau'r oesau canol, ystyrid bod pererindod i Gaersalem yn anhepgor. Yno, meddir, y bu Dewi, nawdd sant Cymru, gyda Theilo a Phadarn. Dywedir bod y creiriau a ddygasant yn ôl yng nghadw yn eglwys Llangyfelach. Haerid mai o ddwylo Patriarch Jerusalem y derbyniodd Dewi arch— esgobaeth Tyddewi—adlais o'r amser pryd na chydnabyddid uchafiaeth Rhufain. Wedi syrthio o Gaersalem i ddwylo'r Saraseniaid, daeth Rhufain i gael ei hystyried fel y ddinas santaidd, a daeth pererindod i Rufain yn boblogaidd ymysg llên a lleyg fel ei gilydd. Yno y bu farw Cyngen, Tywysog Powys, yn y flwyddyn 854, a'i gladdu yn eglwys Pedr Sant.

Yno hefyd y bu farw Hywel ap Rhys, tywysog y de, dridiau wedi iddo gyrraedd y ddinas, yn yr oedran teg o 124.[1] Myn rhai ddarfod i Hywel Dda fyned yno i erfyn am fendith yr eglwys ar ei waith yn rhoddi hen gyfreithiau Cymru ar gof a chadw.[2]. Er hyn i gyd, ni pheidiodd pererindodau i Gaer— salem. Yn 1431 ceir y nodyn a ganlyn: "John, Esgob Bangor, a saith o bersonau gydag ef, a chanddo 8 o geffylau a'u harnais i ymweled â'r Bedd Santaidd mewn cyflawniad o'i adduned.[3]

Ystyrrid pererindod i Santiago Gompostella (maes y sêr)—yn Sbaen bron yn gyfwerth â phererindod i Rufain. Yno, meddid, y claddwyd yr Apostol Iago, oedd a'i fryd ar efengyleiddio'r wlad. Caed hyd i'w fedd trwy freuddwyd a gafodd yr esgob, Theodomir, ei fod yn gweled maes o sêr a'r bedd yn eu canol. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 812 o.C., neu 816 o.c., a bu'r lle yn boblogaidd iawn trwy gydol yr oesau canol.

Tair ffynnon gwynion eu gwedd
Draw a geir i'r drugaredd,
Y Bedd a Sain Siam drwy'r byd
A Rhufain a geir hefyd.[4]
—LEWIS GLYN COTHI.

Ymddengys hyd yn oed i Ddafydd ap Gwilym, y lleiaf "crefyddol" o'r beirdd, arfaethu myned yno unwaith, oni bai ei lesteirio gan y tywydd.

Torraist â Sain Siam amod,
Tud y glaw nid da dy glod.


  1. Hartwell Jones: Celtic Britain and the Pilgrim Movement, 193.
  2. Tybia Dr. Lloyd i Hywel fyned ar bererindod yn gynnar ar ei oes cyn iddo gasglu'r cyfreithiau at ei gilydd. Aberystwyth Studies, X
  3. Hartwell Jones: op. cit., 568 (note)
  4. Ibid., 255.