Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/367

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid oedd yng Nghymru, wrth gwrs, leoedd hafal i'r rhai hyn, ond yr oedd iddi hithau hefyd ei chysegrleoedd, fel Tyddewi, Ffynnon Gwenffrewi ac Enlli, ynghyda llu o eglwysi llai adnabyddus, ond nid llai cysegredig ym marn y brodorion. Yr oedd myned i Dyddewi ddwywaith cystal â myned i Rufain unwaith, ac os eid yno deirgwaith, yr oedd hynny yn gyfwerth â myned i weld y Bedd Santaidd yng Nghaersalem.

Ar y ffordd i Gapel Ffynnon Fair, Enlli.

Cystal o'm ardal i mi
Dwywaith vyned at Dewi,
A phe delwn cystlwn cain
O riv unwaith i Ruvain.
Myned dair gwaith araith yw
Am enaid, hyd y Mynyw
I mae'n cystal â myned
I vedd Crist unwaith vydd cred.[1]
—LEWIS GLYN COTHI.

Nid llai poblogaidd y daith i Enlli—yr ynys oddi ar Wynedd —lle hunai ugain mil o saint yr Eglwys Geltaidd.

Yn wyneb y mynych deithio, anghenraid oedd gwneud rhyw ddarpariaeth i groesawu'r teithwyr. Rhaid cofio, wrth

  1. 21 Ibid., 371.