Morgannwg, ac ym "mhlith y prydyddion ydd oedd un yn offeiriad y Rhath (Roath), Caerdydd, un a fuasai nid yn hir cyn hynny ar dreigl clera ar hyd y wlad, hynny yw, yn canu cerdd a chwarae y crwth wrth ganu o dŷ beugilydd, yr hyn nid oedd yn beth yn ei le herwydd awen y prydyddion dysgedig. Yn yr un cyfarfod yr oedd Gwilym Hir Saer, ac fel hyn, ymhlith pethau eraill, y canodd Gwilym i'r offeiriad:
Cas hefyd tri pheth arall—
Y creiriau a gâr anghall
Tavarn lle mae'r drwg a'i dardd,
A cherddau bardd diddeall.
Digwyddodd yr uchod yn nheyrnasiad y Frenhines Elsbed.[1] Byddai'r clerwyr yn fwy poblogaidd na'r prydyddion gyda'u cynyrchion annealladwy—dyna ergyd y llinell "a cherddau bardd diddeall," y mae'n debyg. Rhaid oedd i farddoniaeth y prydyddion, meddai Gruffydd, fod yn anodd ei chanu ac yn anodd ei deall, a dyna'r rheswm am anhawster ac an— nheilyngdod y Gogynfeirdd. Yr oeddynt yn canu'n dywyll o fwriad. "Yr oedd hwn hefyd yn draddodiad Celtaidd ceir digon o esiamplau o'r 'anhawster' yn yr Wyddeleg.[2]
Gresyn oedd i lyfr Clera Rhys Cain gael ei losgi yn nhân Wynnstay. Ond yn un o lawysgrifau Peniarth ceir cyfrif o enillion Rhys rhwng y Nadolig a'r Ystwyll. Yn ystod y tymor hwnnw llwyddodd yr hen fardd i gasglu'r swm sylweddol o £23 2s. 6c. Yr oedd Rhys yn ei flodau yn hanner olaf yr unfed ganrif ar bymtheg.
Ychydig a wyddom i sicrwydd am ansawdd ffyrdd yr oesau canol. Gwyddom am y ffyrdd penigamp a gysylltai gaerau'r Rhufeiniwr wrth ei gilydd, ond wedi dydd yr ymerodraeth collodd y caerau hyn eu pwysigrwydd. Yr oedd amryw o'r caerau mewn lleoedd hynod ddiarffordd, ac o ganlyniad bychan oedd gwerth y ffyrdd i bwrpas masnach a pheidiwyd a'u defnyddio. Gorfu i drafnidiaeth felly dorri llwybrau newydd iddi ei hun i fesur. Yr oedd arloesiad y wlad a thwf pentrefydd a threfydd yn gofyn am hyn, ac y mae'n bosibl mewn rhai enghreifftiau iddynt ail—ddefnyddio hen lwybrau y cyn—oesau.
Ond prin y gellir dywedyd y gwyddai'r oesau canol ddim am y gelfyddyd gwneud ffyrdd. Collwyd y grefft honno, fel y collwyd aml un arall, yn nhranc yr ymerodraeth. Nid