oedd ffordd yr oesau canol namyn llwybr neu wtra anhygyrch yn crwydro yma ac acw, i lawr ac i fyny, wrth geisio osgoi'r corsydd a'r lleoedd lleidiog.
Cyfeiria cyfreithiau Hywel at briffordd y Brenin, deuddeg troedfedd o led, a'r ffordd derfyn rhwng dwy dref.[1] Bygythid dirwy drom ar y sawl a geisiai symud terfynau'r ffordd, neu a geisiai arddu arni er mwyn helaethu tiriogaeth ei dref— arwydd lled sicr mai tramwyfa syml oedd y ffordd, heb ond ychydig iawn o "wneud" arni. Sonia'r cyfreithiau hefyd am bont unpren, ond nid oes dim ynddynt yn cyfateb i dri nod angen cyfreithiau'r Eingl Sais. Yn ôl y rhain yr oedd pob darn o dir drwy'r wlad yn gyfrifol am yr hyn a elwid yn Brigbot, hynny yw, am gadw'r ffyrdd a'r pontydd mewn cyflwr priodol.
Yn ddiweddarach daeth adeiladu pontydd i gael ei ystyried yn ddyletswydd grefyddol, ac ar y Cyfandir ffurfiwyd Urdd y Pontiffiaid—adeiladwyr pontydd—gyda'r Pab[2] ei hun yn ben arnynt, ond nid ymsefydlodd yr Urdd yn y wlad hon. Er hynny gwnaeth yr eglwys gryn lawer yn y cyfeiriad hwn. Yr Esgob Trevor o Lanelwy (1300—57) a adeiladodd bont Llangollen, a thaflodd mynaich Ystrad Fflur bont dros Raeadr Mynach. Parhaodd y traddodiad yn hir yng Nghymru a dywedir mai'r Dr. John Davies o Fallwyd a adeiladodd Bont y Cleifion, Mallwyd, a hefyd bont y Dinas. Un peth oedd codi pont; peth arall oedd ei chadw mewn trefn.
Yn 1284 cafodd Roger Mortimer, o Gastell y Waun, doll pont Llangollen am dair blynedd, ar yr amod ei fod i'w hatgyweirio a'i
- ↑ Ancient Laws. I, 554, 764.
- ↑ PONTIFF. Y mae i'r gair Pontiff, o'r Lladin pons—facio, hanes diddorol. Fel y mae'n wybyddus, dyma un o'r teitlau yr adwaenir y Pab wrtho ers llawer canrif bellach. Yn wir, un o'r arwyddion cyntaf fod y Pab yn edrych arno ei hun fel etifedd yr hen ymerodraeth Rufeinig oedd i Esgob Rhufain ymgymeryd nid yn unig â'r teitl o Episcopus episcoporum, ond hefyd â'r teitl ymerodrol Pontifex maximus. Ond yr oedd yr enw a'r swydd yn bod ymhell cyn bod na Phab nac Ymherodr. Yn ben ar yr hen gyfundrefn grefyddol yn Rhufain baganaidd yr oedd y Rex—y Rhi—ac o dano yr oedd coleg o gynghorwyr a adwaenid, am ryw reswm nad yw yn glir iawn erbyn hyn, fel pontifices—adeiladwyr pontydd. Ar y cyntaf, rhifant o 3 i 5, ond yn fuan cynyddodd y rhif i 15 o dan bennaeth adwaenid fel Pontifex Maximus. Yn raddol, gyda thyfiant yr ymerodraeth, gwthiwyd y cynghorwyr o'r neilltu, a chymerodd yr ymherodr y teitl iddo'i hun, ac yn ddiweddarach, wedi diflannu o'r ymerodraeth, mabwysiadwyd ef gan Esgob Rhufain. Awgryma'r bardd Varro mai gwaith offeiriad yn adeiladu pont Sulpicia roddodd gychwyn i'r arfer o ddefnyddio'r teitl gan y Pab. Diau mai cyflwr adfydus y pynt yn yr oesau canol roddodd gychwyn i'r urdd newydd. Gwnaethant waith da ar y cyfandir, ac erys adran o hen bont Avignon, adeiladwyd ganddynt hwy, hyd heddiw.