y gorllewin, a thrwy ysbrydiaeth y gredo lenyddol honno y daethpwyd o hyd i swyn coll yr oesau canol. Syr Walter Scott oedd y cyntaf i ddangos i'r byd ramant yr oesau hynny, ac ar ei ôl ef bu llenorion ym mhob gwlad yn tynnu ar eu dychymyg er mwyn taflu rhyw gymaint o oleuni ar gyfnod nas cyfrifid hyd hynny yn werth y sylw lleiaf.

Ar ôl y rhamantydd daeth yr hanesydd. Yn 1819 sefydlwyd cymdeithas yn hen ddinas Frankfort i astudio hanes bore'r Almaen, ac y mae enw bron bob hanesydd o bwys yn y cyfnod hwnnw ar glawr ei chyhoeddiad cyntaf. Y mae hefyd enwau lliaws o ramantwyr yn y rhestr, ac yn wir, un o broblemau cyntaf y gymdeithas oedd eu didoli hwy oddi wrth yr haneswyr.[1] Yn 1818 cyhoeddodd Hallam, y cyntaf o haneswyr diweddar Lloegr, ei lyfr, A Sketch of Europe in the Middle Ages, ac yn 1820 sefydlwyd yr "École des Chartes " ym Mharis i chwilio i mewn i hanes Ffrainc. O dipyn i beth, felly, fel y cynyddai gwybodaeth, hawliai'r oesau canol le iddynt eu hunain wrth ochr cyfnodau eraill hanes.
Fel y dywedwyd eisoes, nid oes fwlch yng nghadwyn hanes, ond ar yr un pryd y mae terfyn eglur rhwng rhai cyfnodau a'i gilydd, a safant ar wahân ac yn aml yn wrthgyferbyniol
- ↑ Gweler Gooch: History and Historians in the 19th Century, V, XI a XV.