Dywedir, er enghraifft, i Meredith Wynne adeiladu eglwys Dolwyddelan ar ei gost ei hun yn y flwyddyn 1500. Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach rhoddwyd ffenestr wydr yn yr eglwys y gyntaf, meddir, yn yr holl wlad.[1] Lle ceid ffenestri, dengys eu cynllun ar unwaith—sef cul o'r tu allan a lledu tuag i mewn—nad oeddynt ond megis cloer a geir mewn beudai ac ysguboriau heddiw. Rhoid caead arnynt o'r tu allan ac agorid hwnnw i ollwng tipyn o olau i mewn. Weithiau rhoid lliain yn y ffenestr neu fe'i plethid â dellt, a gellir gweld mewn ambell hen furddyn y lle y goodid dellt yn ffram y ffenestr.
Wrth gwrs, fe dreuliai'r bobl lawer mwy o'u hamser yn yr awyr agored nag a wnawn ni heddiw, ac yr oedd eu bywyd yn fwy bwystfilaidd a chreulon. Ceir digon o brofion o hyn yn llen— yddiaeth y cyfnod, yn eu gwleddoedd afreolus ac yn eu gweith— redoedd anfad—a gyflawnid ganddynt weithiau yn enw crefydd. Nid oedd torri tafod neu dynnu llygaid neu anafu aelodau'r corff ond cosb gyffredin yn eu golwg. Pan syrthiodd Dafydd, brawd Llywelyn y Llyw Olaf, i ddwylo'r Saeson yn 1282, dedfrydwyd ef gan farwniaid y brenin (1) i gael ei dynnu'n ddarnau gan geffylau, am ei fod yn farchog ac wedi troi'n fradwr i'r brenin; (2) i'w goluddion gael eu tynnu allan a'u llosgi, am iddo godi mewn gwrthryfel yn ystod wythnos y grog; (3) ei aelodau i'w hanfon i'r pedwar gwynt, am ei fod wedi drygu achos y brenin mewn mwy nag un cyfeiriad.[2]
Bywyd o ryfela neu o hela, gydag ambell bererindod—dyna fywyd y mawrion. Bywyd o lafur undonnog ar faes neu ar ffridd, gydag aml i ŵyl grefyddol i dorri ar yr undonedd, oedd cyfran y taeog. Magai bywyd o'r fath wŷr corffol cadarn, y mae'n wir, ond fe'n synnir pan ddeallwn na all gŵr o faintioli cyffredin heddiw roi gwisgoedd dur y marchogion gynt amdano—arwydd lled sicr nad oeddynt gymaint dynion ag y tybiwn eu bod weithiau.
Nid oedd ganddynt ond syniadau amherffaith iawn am ddeddfau iechyd ac am lanweithdra. Pan ddigwyddai haint, yr oedd
wlad, oherwydd teneuwch y boblogaeth, yn well ei ffawd na'r dref, a'r tyddynnwr yn ei fwthyn yn rhagorach ei sut na'r arglwydd yn ei gastell.
Yr oedd rhaid gwneud rhyw ddarpariaeth iechydol yn y cestyll, a gellir gweld eto yng nghestyll Cymru y garderobes a wnaed gan y Norman. Yng Nghaerffili adeiladwyd tyrau