Byddai'r cig a werthid yn fynych o ansawdd llygredig. Câi llawer o'r da eu difa gan y Pla (Murrain), a gwerthid eu cig os gellid. Gwnaed trefniant yng Nghenffig yn 1330 i rwystro cigyddion o'r tu allan i'r dref ddyfod â chorpwys unrhyw anifail i'r dref heb ddwyn y croen hefyd, fel y gellid penderfynu a oedd yn iach ai peidio. Ceir enghreifftiau o gigyddion yn y gogledd yn cael eu cosbi am yr un trosedd.
Ni chaniatâi'r eglwys fwyta cig ar ddydd Gwener nac ychwaith yn ystod tymor y Grawys, ond na feddylied neb mai pysgod ffres a fwyteid gan y cyffredin. Gwir bod gan y mynaich a'r mawrion eu pysgodlynnoedd a'u hafonydd:
Pysgodlyn, kyryglyn kau
A vo rhaid i vwrw rhwydau,
ond pysgod hallt a gâi'r gwerinwr oherwydd anhawster eu cludo o fan i fan. Yn y trefydd gwneid hwy yn basteiod bychain, a rhoid cymaint o bupur ac o sbeis ynddynt nes celu eu sawr. Tybir mai'r pysgod hallt a fwyteid oedd yn cyfrif am gyffredinolrwydd y gwahanglwyf.[1]
Anhawster arall ydoedd prinder ŷd. Ar gyfartaledd, ni ellid disgwyl ond wyth neu naw bwsiel oddi wrth bob dau a heuid, ac erbyn diwedd yr oesau canol ni cheid yn fynych fwy na phedwar neu bump.[2] Yr oedd y cynnyrch ar y prif faenorydd ychydig yn well. Y mae'n debyg mai fel hyn y dylid esbonio'r brawddegau yn Llyfr Du Tyddewi, lle dywedir bod yr arglwydd yn gyfrifol am y trydydd neu'r pedwerydd gronyn, hynny yw, disgwylid cael tri neu bedwar am bob un a heuid. Yn fynych ni wnai'r ceirch a'r haidd ond dyblu, a rhywbeth tebyg fyddai cynnydd y rhyg. Wrth gwrs, fe geid gwell cnydau na hyn yn achlysurol, ond ffaith safonol bywyd amaethyddol yr oesau canol ydyw tlodi ei gynnyrch.
O ganlyniad, anwadalwch yw prif nodwedd prisiau y cyfnod. Yr oedd methiant cnwd, a oedd ar ei orau yn hynod fychan, yn sicr o beri drudaniaeth. Codid bron y cwbl oedd yn angenrheidiol o fewn y wlad ei hun, ac yn fynych iawn codai plwyf yr holl ŷd a fyddai'n eisiau gan y plwyfolion. Pan geid cnwd da, byddai'r ŷd yn y mannau hynny yn hynod o rad, oherwydd yr oedd yn anodd ei gludo o fan i fan. Y flwyddyn ddilynol, hwyrach, fe fethai'r cnwd, ac am yr un rhesymau ceid newyn yn y wlad. Er enghraifft, yn 1361 4/8 y chwarter oedd