Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/386

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

naturiol a syml i bobl fugeiliol. Dywed Gerallt y cymerent ofal mawr rhag bwyta dim byd poeth. Credent y gwnai hynny niwed i'w dannedd, a chymerai'r naill ryw fel y llall, medd Gerallt, ofal neilltuol o'u dannedd trwy eu glanhau â chollen werdd a'u sychu â gwlanen.[1]

Un o'r pethau mwyaf torcalonnus, yn sicr, a ddyfeisiodd eglwys yr oesau canol ydoedd gwasanaeth neilltuad y claf, fel y gelwid y gwahanglwyfus. Ar achlysur o'r fath âi'r offeiriad i dŷ'r claf yn ei wisg offeiriadol, gyda'r groes orymdeithiol o'i flaen, ac arweiniai'r claf gydag ef i'r eglwys. Yno yr oedd dau dresel a ddefnyddid i roi arch arnynt pan fyddai angladd, a throstynt taenid yr elorwisg a orchuddiai'r arch ar amgylchiad o'r fath. Gorfyddid i'r claf benlinio oddi— tano fel arwydd ei fod yntau hefyd o hynny allan i gael ei ystyried fel un marw. Cyn dechrau'r gwasanaeth gofynnid iddo wneud ei gyffes. Yna eid trwy wasanaeth yr offeren, ac arweinid y claf i'r fynwent lle teflid pridd ar ei draed fel arwydd ychwanegol o'i restriad ymysg y meirw. Yna dychwelai i'w dŷ a'r wisg ddu amdano ac wedyn arweinid ef i'r meysydd. Yno gwneid iddo addo peidio byth â dychwelyd i fysg pobl na golchi ei ddwylo mewn unrhyw ffrwd o ddŵr nac yfed ohoni; yr âi allan o'r ffordd os digwyddai gyfarfod â theithwyr eraill, a pheidio a rhoddi ei law ar ddim a oedd yn debyg o gael ei gyffwrdd gan arall. Rhoddid i'r truan gôb ac esgidiau, clôg a chapan, dau bâr o gynfasau, gwregys, cyllell, cwpan a phlat, a'r "clappers" yr oedd raid iddo eu defnyddio pryd bynnag y deuai yn agos at dref neu bentref, er mwyn i'r trigolion wybod ei fod yno ac felly ei osgoi.[2]

Ychydig sail, felly, sydd i'r dyb a goleddid unwaith y caniateid i'r cleifion gymryd rhan yng ngwasanaeth yr offeren trwy ffenestr agored y gellid gweld yr allor trwyddi o'r fynwent. Y mae'n amlwg na chaniateid i'r gwahangleifion fyned i'r fynwent o gwbl.

Bu'r gwahanglwyf yn ysgubo trwy'r wlad o'r unfed ganrif ar ddeg hyd y bedwaredd ar ddeg. Erbyn yr unfed ar bymtheg yr oedd wedi lliniaru cryn dipyn. Anghytuna awduron gyda golwg ar y rheswm am hyn, a hefyd ynglŷn â nifer y dioddef— wyr, ond gwyddom rywbeth am y ddarpariaeth a wnaed trwy godi ysbytai i gyfarfod â'r anhwylder. Dywedir bod dros

  1. Giraldus Cambrensis: Description of Wales, XI.
  2. Gweler Manuale ad usum Insignis Ecclesiae Sarum, Appendix Surtees Society, Vol. 63, p. 105.