Yn y disgrifiad a rydd George Owen o Sir Benfro, dywed yntau i Gilbert de Clare, Iarll Penfro (1234—41), roddi tir i "Maudlem o Ddinbych y Pysgod" i sefydlu tŷ i noddi'r gwahan— gleifion a oedd yno. Yr oedd y tŷ hwn, fel y rhelyw ohonynt, wedi ei gysegru i Fair Magdalen.[1]
Ar y terfyn rhwng dwy adran hen dref Wrecsam—Wrecsam yr Abad a Wrecsam y Brenin—yr oedd gynt gae o'r enw Cae'r Cleifion. Nid oes yno olion o fath yn y byd heddiw, ond tybiai Palmer, hanesydd dihafal y dref, oherwydd ei safle ar y cyrion, y dichon fod yno dŷ clafwyr unwaith. Yr oedd clafdy hefyd yn nhref Gaernarfon yn y ddegfed flwyddyn o deyrnasiad Edward III.
Yn y siarter a roddwyd i hen fynachlog Ystrad Fflur yng Ngorffennaf, 1426, ceir rhestr o'r tiriogaethau a oedd yn perthyn iddi, ac yn eu mysg ceir Strat Meur (Ystrad Meurig) ag eithrio erwau y gwahangleifion." Yr oedd ganddynt hwy (y gwahangleifion) o bosibl siartrau neilltuol.[2]
Mwy arswydus hyd yn oed na'r gwahanglwyf ydoedd ym— weliadau ysbeidiol difaol y Pla Du. Sonnir amdano yn gwneud galanas yn Athen pan ddywedir i Socrates ei osgoi oherwydd ei fywyd dichlynaidd. Torrodd allan yn arswydus mewn lle o'r enw Pelusium, dinas yn gorwedd rhwng hen gors enwog Serbon ac un o gangau'r afon Nil. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 542 O.C., a bu'n mynd ac yn dyfod am ysbaid o hanner can mlynedd. Yn ystod yr hanner can mlynedd hynny bu can— noedd o filoedd, os nad miliynau, farw, a myn rhai awduron nad adfywiodd adran ddwyreiniol yr ymerodraeth Rufeinig byth wedi'r ymweliad hwnnw.[3]
Dyma yn sicr yr ymweliad a achosodd farw'r hen deyrn hwnnw, Maelgwn Gwynedd. Dywed rhai mai yn 547 y bu hyn, ond nid oes sicrwydd ar y pwnc. Dywedir i Daliesin ben beirdd rag—ddywedyd ei dranc yng nghastell Deganwy ym mhresenoldeb Maelgwn ei hun:
Fe ddaw pry rhyfedd o Forfa Rhianedd
I ddial anwiredd ar Vaelgwn Gwynedd,
A'i flew a'i ddannedd a'i lygaid yn eurydd,
A hyn a wna ddiwedd ar Vaelgwn Gwynedd.