Neu hwn rhag y cramp o Lyfr Meddyginiaeth:
Rhag y Cramp. Dowaid y geiriau hyn: "thoral get and gott gott canay Hen arap erax o boxi."
Dengys y cynghorion a roddid gan adran feddygol Prifysgol Paris—y brifysgol bwysicaf o ddigon yn yr oesau canol—nad oedd Cymru wedi'r cyfan ryw gymaint ar ôl yr oes. Pwysleisient hwy ddylanwad y planedau a chredent y glawiai am gyfnod o saith niwrnod hyd yr ail ar bymtheg o Orffennaf, 1349, ac y cliriai hynny yr awyr. Os digwyddai hynny, awgrymant i bawb yfed ychydig driagl a pheidio a chysgu yn y dydd, ac i bobl dewion ofalu rhag eistedd yn yr haul. Gwell yw eu hawgrymiad y dylid llosgi coedydd a llysiau persawr fel y wermod a'r camomile. Tebyg ydoedd barn Gentilis o Foligno, meddyg enwog yn Itali, a syrthiodd ei hunan yn aberth i'r Pla oherwydd ei ffyddlondeb i'w ddyletswyddau. Credai yntau mewn puro'r awyr trwy losgi coed hyfryd eu sawr a rhoddai bwys ar serio'r chwarennau ac ar waedu'r dioddefwyr.[1]
Yr oedd gwaedu yn fuddiol i bob peth ac yn rhan megis o grefydd y mynaich. Perthynai i bob mynachlog ystafell arbennig, lle gwaedid y brodyr, ac un arall, y misericordia, lle caniateid iddynt aros am ysbaid o bedwar niwrnod ar ôl goruchwyliaeth y gwaedu. Gwahaniaethai rheolau'r gwaedu yn ôl yr Urdd. Pedair gwaith yn y flwyddyn y gwaedid y Sistersiaid—yn Chwefror, Ebrill, Medi a gŵyl St. Ioan (Rhagfyr 27). Yn ystod eu harosiad yn y misericordia, ni ddisgwylid iddynt fynychu'r gwasanaeth crefyddol, a chaent well bwyd nag arfer. Y diwrnod cyntaf caniateid iddynt dri wy wedi eu curo mewn llaeth, a bara a gwin. Yna caent gig cyw a phorc, caws a physgod. Caniateid gwas yn y misericordia i wylio rhag i'r gwythiennau ail dorri a cheir manylion am y bwyd a gai hwnnw hefyd—cwrw a photes, caws, cig, wy neu bysgodyn, a bara gweision (bara du, y mae'n debyg).[2]
Rhoddai'r mynaich gryn sylw i feddyginiaeth lysieuol, a byddai rhan o ardd y fynachlog yn cael ei neilltuo at dyfu llysiau rhinweddol. Erys rhai o'r llysiau hyn o hyd yng nghymdogaeth ambell hen fynachlog.[3] Ceir cyfeiriad atynt gan William Salesbury yn ei Lysieulyfr Meddyginiaethol: