Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/395

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y Redic . . y mae yn tyfu . . . yng ngweirglodd y myneich gynt y tu gorllewin i vonachlog Aberconwy." Byddai eraill heblaw'r mynaich yn tyfu llysiau meddyginiaethol. Ymddengys fod gardd o'r fath yn Llewenni. Y mae ar gael lythyr oddi wrth ryw Thomas Thomas at Edward Morgan yn cynnig iddo unrhyw lysieuyn o ardd Llewenni, a rhoddir rhestr o gryn ddwy fil a hanner o lysiau. Yr oedd yr Edward Morgan hwn o Fodysgallen yn hanfod o deulu Golden Grove, ac yr oedd ganddo ardd lysiau yn Llundain.[1]

Tua diwedd yr oesau cano' fe dorrodd anhwylder allan y tybir iddo gychwyn yng Nghymru Adwaenid ef yn gyffredin fel y "Sweating Sickness," am y byddai'r dioddefydd yn chwysu'n eithriadol. Dywedir iddo dorri allan gyntaf ym myddin Harri VII, pan oedd y gwron hwnnw ar ei ffordd i faes Bosworth, ac yr oedd wedi cyrraedd Llundain erbyn mis Medi, 1485. Yr oedd eisoes wedi cyrraedd Rhydychen erbyn mis Awst, ac ni bu neb yn y Brifysgol am ysbaid o chwech wythnos. Ymddengys fod yr afiechyd yn un hynod angeuol. Ceir manylion gan Harrison am ymweliad arall a fu yn 1556,[2] a gwyddom i gynifer a 500 o ddineswyr Croesoswallt farw yn ystod ymweliad a fu yn 1559. Dyma'r pryd, meddir, y codwyd y groes a adwaenir fel Croes Wylan, ac y symudwyd y farchnad i'r llecyn lle saif y groes heddiw y tu allan i furiau'r dref.[3]

Cwpl Hafod-'Sbyty.
  1. ↑ Edward Morgan: Hortus Siccus, yn y Bodleian Library, Rhydychen.
  2. ↑ Harrison: Elizabethan England, p. 267.
  3. ↑ Cathrall's History of Oswestry, p. 53.