amgylchiadau yn ei gell, a oedd yn aelod o gymdeithas barchusaf y cyfnod; am fywyd hunanaberthol y Brodyr yn nhlodi ac afiechyd y dref; y marchog crwydr yn ei hynt am ramant; a'r ysgolhaig tlawd yn crwydo o'r naill brifysgol i'r llall i gael cipolwg ar rai o drysorau llên y cyfnod.
Rhaid cydnabod bod anamlder ac amherffeithrwydd cyfryngau dysg yn nodwedd gyffredin ar fywyd yr oesau canol. Torrodd yr oesau tywyll rhwng y cyfnod clasurol a'r cyfnod pryd y medrodd yr oesau canol greu rhywbeth tebyg i ddiwylliant iddynt eu hunain. Yn wir, gellir dywedyd na bu i'r oesau canol hepgor y golled hon yn llwyr, a bu ail— ddarganfod trysorau llên a dysg yr hen fyd—na wyddid amdanynt yn yr oesau canol—yn ddigon i roi pen ar y cyfnod hwnnw. Fel y cyfeiriwyd eisoes, gwnaed llai o ddifrod yng llaw Nghymru nag mewn llawer gwlad yn y gorllewin, ond ar y arall, yr oedd Cymru yn llai dyledus i'r dylanwad Rhufeinig na'r gwledydd cylchynol, ag eithrio Iwerddon ac Ysgotland. Y mae parhad yr iaith a'r traddodiad barddonol yn ddigon o braw o hyn, ac er i Gymru, fel pob gwlad arall, dderbyn ysbryd— iaeth o'i chysylltiad agosach â bywyd Ewrop yn yr oesau canol, rhaid oedd i hwnnw, fel y dengys y Mabinogion a chynyrchion eraill y cyfnod, gael eu cymhathu i mewn i'r hen draddodiad Cymreig. Er bod lliw yr oesau canol ar y chwedlau hyn, cydnebydd pawb fod traddodiad y tu ôl iddynt sy'n perthyn i gyfnod llawer boreach yn hanes Cymru.
Gellir dywedyd i lên yr hen fyd drengi yng ngwaith Boethius ar "Ddiddanwch Athroniaeth" a sgrifennwyd ganddo pan oedd yng ngharchar yn ystod teyrnasiad Theodoric. Dyma un o lyfrau mwyaf poblogaidd yr oesau canol,[1] a gorfu i bobl y
- ↑ Cyfieithwyd y "Diddanwch" i'r Anglo-Saxon gan y Brenin Alfred tua'r flwyddyn 897—8. Ceir cyfieithiad mydryddol yn ogystal a'r cyfieithiad pros yn y Cotton MSS., ond pros yn unig a geir yng nghopi'r Bodleian. Anghytuna'r awdurdodau ar gwestiwn awduraeth y cyfieithiad mydryddo!, er y dywed y Rhagarweiniad—sydd, fel y myn rhai yn ddiweddarach na'r cyfieithiad ei hun—mai Alfred oedd awdur y naill a'r llall. Dywed William o Malmesbury wrthym fod Asser o Dyddewi, ei gyfaill a'i fywgraffydd, wrth ei benelin pan wrth y gwaith, yn esbonio y Lladin iddo ac Alfred yn ei drosi i iaith yr Eingl-Sais.Cyfieithwyd ef drachefn i bros gan y Bardd Chaucer o dan y teitl Boece. Yr oedd hyn, fel y tybir, tua'r flwyddyn 1381. Dyma'r cyfieithiad cyntaf i Seisnig, ac y mae'n amlwg oddi wrth y mynych ddyfynnu sydd arno yng ngweithiau y Bardd ei fod yn un o'i hoff lyfrau.Ac hyd yn oed pan wawriodd y Dadeni ar Loegr, ni anghofiwyd yr hen glasur yn llwyr. Y tro hwn fe'i cyfieithwyd i Saesneg diweddar gan y Frenhines Elizabeth ei hun. Fel y rhelyw o'r teulu, yr oedd Elizabeth yn ysgolhaig gwych ac wedi ei haddysgu gan Roger Ascham, un o noddwyr mwyaf eiddgar y Ddysg Newydd.