Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/401

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyngddo a'r traddodiad clasurol. Yng ngweithiau'r beirdd y gwelir ôl y traddodiad hwn, fel y gwelir ôl y traddodiad Rhufeinig yng ngweithiau Gildas, ac y mae i'r naill a'r llall ei le yn natblygiad dysg yr oesau canol.[1].

Dengys cyfreithiau Hywel Dda[2] fod i'r bardd le anrhydeddus ymysg swyddogion y Llys. O'r pedwar swyddog ar hugain, efô oedd yr unfed ar ddeg, ac yn y gadair honno yr eisteddai wrth fwrdd y wledd. Yr oedd hefyd yn cael ei ystyried yn ŵr rhydd, ac oherwydd hyn ni châi mab y taeog ymgymryd â swydd bardd heb ganiatâd ei arglwydd, rhag colli o hwnnw ei lafur ac unrhyw ennill arall a ddeilliai o'i safle israddol. Ymddengys fod rhaid i'r Pencerdd—dyna enw'r prif fardd—fyned trwy ryw fath o gystadleuaeth neu ymryson barddonol cyn y gellid ei ystyried yn deilwng o gadair yn y llys. Ar yr achlysur hwnnw fe roddid iddo, gan ynad y llys, gorn buel, modrwy aur, a chlustog i eistedd arni yn y gadair. Câi delyn gan y brenin ei hun, ac fel gŵr rhydd daliai ei dir heb unrhyw lafur wasanaeth.

Y bardd arall oedd y Bardd Teulu.[3] Dichon mai bardd y gosgorddlu a amddiffynai'r brenin oedd hwn, a'i waith ef oedd difyrru'r penteulu a'i gyfeillion. Wedi canu o'r pencerdd ddwy gân ar y llwyfan (dais) lle eisteddai'r brenin a'i swyddogion wrth y prif fwrdd, canai'r bardd teulu gân ym mhen arall y neuadd i ddiddori'r rhai a gai eu cinio yn y pen hwnnw i'r ystafell. Dichon, ar y llaw arall, ei fod yn olynydd y bardd teulu gynt y sonnir amdano yn y cyfreithiau yn ôl defod ac arfer, pan oedd y bywyd patriarchaidd yn fwy syml a chartrefol nag oedd yn nyddiau Hywel. Sonnir hefyd am gerddorion (joculatores) yn ôl y cyfieithiad Lladin)—hynafiaid y ffŵl, a oedd yn fawr ei boblogrwydd yn neuaddau'r oesau canol.7

Parhaodd y traddodiad hwn am safle swyddogol prydydd hyd ddiwedd yr oesau canol. Ceir mewn hen lawysgrif (Peniarth MSS, 73) ddisgrifiad diddorol o'r cyfnewid a fu ym mywyd y beirdd wedi colli'r tywysogions:[4]

Ag wedi meirw y Twysogion y kymerth y gwyr boneddigion a hanoeddynt o waed y Twysogion y gwyr wrth gerdd atynt ag a roesant

  1. Y mae perthynas y Bardd Teulu a'r Pencerdd a'i gilydd yn un o'r pethau mwyaf anodd ei benderfynu fel y mae'r cyfreithiau gennym ar hyn o bryd. Rhaid aros nes ceir ysgolhaig cyfarwydd a fedr ddatrys y gwahanol elfennau a'r gwahanol gyfnodau oddi wrth ei gilydd
  2. Ancient Laws and Institutes, dan y pennawd Pencerdd a Bardd Teulu, I. 10, 32, 388.
  3. Ibid., I, 32.
  4. 8 Gweler erthygl feistrolgar yr Athro T. Gwynn Jones ar "Bardism and Romance," Cymmrodorion Transactions, 1913—14. 261, Nodyn 2.