Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/406

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

femrynau, er i'r gwaith gael ei berffeithio i raddau eithriadol yng nghelloedd yr Ynys Werdd. Y mae yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn, gopi o'r Sallwyr yn Lladin, wedi ei sgrifennu gan Ieuan, brawd Rhygyfarch, a mab Sulien, esgob Tyddewi. Nid oes le i amau ychwaith nad oedd gweithiau beirdd fel Fersil, Horas, a Martial yn wybyddus hefyd, a gellir dweud yr un peth am Ovid, a Cicero a'r aralleiriad o'r efengylau gan Juvencus, heblaw gweithiau Capella.[1] Ond nid oedd ond cyfran fechan o waith yr awduron hyn ar gael y pryd hynny.

Ond gan nad beth oedd ganddynt, y mae'n sicr fod yn eu meddiant gopïau o'r ysgrythurau. Copi Lladin, wrth gwrs, oedd y copi o'r ysgrythur a arferid ar y pryd, ond gwyddys fod copi'r Eglwys Geltaidd yn wahanol i gopi Ierom, a adwaenir fel y Fwlgat. Sonia Gregori o Tours, hanesydd boreaf Ffrainc, amdano fel yn gynwysedig o dri llyfr—y Proffwydi, yr Epistolau a'r Pedair Efengyl.[2]

Achosodd dyfod urddau mynaich y Cyfandir i Gymru gryn ddeffroad meddyliol a chrefyddol fel ym mhob gwlad arall. Yn wir, ni ellir dweud bod Cymru hyd ddyfodiad y Sistersiaid, wedi dangos llawer o eiddgarwch dros y ffurf Rufeinig ar Gristnogaeth, ond trwy ymdrechion yr urdd hon dygwyd Cymru i gysylltiad byw â chrefydd y gorllewin, a hynny heb wneud dim i lesteirio'r teimlad gwladgarol a oedd megis yn dechrau ymddadebru yn hanes y wlad.

Mawr fu'r difrod ar drysorau llenyddol y mynachlogydd yn amser eu dirymu yn 1536, fel ar y cwbl o'u heiddo. Ond y mae'r hyn sy'n aros heb fyned ar ddifancoll yn dangos beth a wnaed gan y sefydliadau hyn i ddiogelu a hyd yn oed i hyrwyddo dysg yr oesau canol.

Llyfr Du Caerfyrddin, a sgrifennwyd, a barnu wrth y llawysgrif, tua chwarter olaf y ddeuddegfed ganrif, yw'r llyfr Cymraeg hynaf a feddwn,[3] ac nid oedd ryfedd rywun i sgrifennu ar un o'i ddalennau:

Er cymen a ddarllenwyf
Dyallu'r Llyfr Du nid wyf.

Ond er mor anodd ei ddeall ydyw, y mae ynddo gasgliad diddorol o chwedloniaeth, diwinyddiaeth, hanes a barddoniaeth, y cwbl ar fesur cerdd. Daeth y llyfr, yn ffodus iawn, i feddiant Syr John Prys, awdur Yn y Llyvyr Hwn, y llyfr printiedig cyntaf yn Gymraeg, a diogelwyd ef felly i'r genedl.

  1. Hartwell Jones: Cymmrodorion Transactions, 1905—6, p. 90.
  2. Hugh Williams: op. cit., 182, 370, CH. XXV.
  3. Rhys Phillips: op. cit., 39.