Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/407

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel perchennog Priordy Aberhonddu, daeth Syr John i feddiant o gasgliad arall o hen lawysgrifau, ac ymysg pethau eraill gopi o'r Historia Britonum a hefyd o'r Brut. Yr enwocaf o'r Brutiau, y mae'n debyg, oedd y cofnod a gedwid dan yr enw hwnnw ym mynachlog Ystrad Fflur. Dywed Gutyn Owain y byddai mynaich Ystrad Fflur a Chonwy yn arfer â chymharu eu croniclau â'i gilydd bob tair blynedd. Yn Ystrad Fflur, hefyd, y mae'n debyg, y sgrifennwyd yr Annales hyd y flwyddyn 1270 a rhyw gyfran o Lyfr Coch Hergest, sydd yn ddrych lled dda o ddysg y cyfnod. Y mae ynddo groniclau rhamantau, chwedlau, trioedd, gramadeg a rheolau barddoniaeth, heblaw llawer o brydyddiaeth.

Annales de Margam yw teitl Cronicl Mynachlog Margam. Nid oes ond un copi ar gael heddiw ac y mae hwnnw yn llyfrgell Coleg y Drindod yng Nghaergrawnt. Nid ymestyn yr Annales ond dros ychydig flynyddoedd, o 1147 i 1232, ond yr oedd trysorau eraill yn llyfrgell Margam, megis copi o "Hanes Prydain o waith Sieffre o Fynwy, yn un llyfr ar ddeg, a chopi rhagorol o Domesday Book y Concwerwr.

Nid oedd rhyw lawer o drysorau llenyddol ym meddiant Abaty Glyn Nedd, er y tybiai Dr. Gwenogfryn Evans mai yno y rhoed Llyfr Taliesin wrth ei gilydd. Yr oedd yno hefyd gopi o lyfr gwasanaeth Mair ac yr oedd galw mawr amdano. Fel hyn y dywed un o Lawysgrifau Llanofer am y llyfr hwn:

Llyma lyfr a elwir Gorddyfnawd y Gymraeg, gwaith Ddafydd Ddu offeiriad, Abad Glyn Nedd ap Llywelyn ap Rhys ap Gronwy... un Dafydd offeiriad a wnaeth lyfr y Greal nid amgen Gwasanaeth Mair yn Gymraeg a llyfr enwau saint Ynys Prydain.[1]

Yr oedd copi o'r Greal arall yng Ngwaenllwg, os gwir yr hyn a ganodd Guto'r Glyn i Abad Gwaunllwg i erchi'r Greal:

Llyfr y gwaed, llyfrau y gwŷr
Lle syrthynt yn llys Arthur:
Llyfr am enwog farchogion
Llyfr teg radd yr holl fort gron,
Llyfr eto yn llaw Frytwn
Llin Hors ni ddarllenai hwn.

Ychydig o drysorau Glyn y Groes hefyd sy'n aros, ond os oes coel ar ganmol y beirdd, nid oedd hithau yn amddifad ohonynt gynt. Y mae yn y Bodleian Library gopi o lyfr gwasanaeth Mair a fu'n perthyn i'r fynachlog unwaith—Liber Sancte Marie de Valle Crucis. Gan ei fod, yn ôl barn y cyfarwydd, yn perthyn i'r ddeuddegfed ganrif, nid yno y

  1. Cymru, Ionawr, 1893.