afresymol. Ond ni bu yn llwyddiannus—rhesymau politicaidd, yn bennaf, oedd yn cyfrif am hynny—a chroes fawr i Gerallt fu'r methiant. Dichon, fodd bynnag, mai i hyn yr ydym i ddiolch am y cynhyrchion llenyddol a ddaeth o'i law— cynhyrchion nad oes eu hafal mewn diddordeb o fewn holl gylch llenyddiaeth y cyfnod hwnnw. Yn wir, perthynai i Gerallt gyfran lled helaeth o'r ddawn oedd mor nodweddiadol o Sieffre, er na ddywedodd neb bethau casach am Sieffre o Fynwy nag a ddywedodd Gerallt o'r Barri. Er hyn i gyd yr oedd yntau fel Sieffre yn rhamantydd diail, ond yn lle gwneud Arthur yn arwr ei lyfr, fel y gwnaeth Sieffre, bodlonodd ar wneud arwr ohono ei hun ym mhob un bron o'i gynhyrchion llenyddol. Er hynny, y mae rhywbeth swynol iawn yn y modd y sieryd amdano ei hun fel ysgolhaig delfrydol Prifysgol Paris, am y modd y croesawodd ddysgedigion Rhydychen ac y canmolodd y Pab ei lyfrau ac awgrymu mai'r Gemma oedd y gorau o'r cwbl.
Llyfr yn ymwneud â daearyddiaeth Iwerddon oedd ei lyfr cyntaf. Dilynwyd hwnnw gan lyfr ar y modd y gorchfygwyd yr ynys gan y Normaniaid. Nid oedd neb yn fwy cymwys i sgrifennu ar y testun hwn na Gerallt, gan fod dau o'i frodyr wedi bod â llaw yn nechrau'r trasiedi hwn yn hanes Iwerddon, a bu yntau ei hun yno am ysbaid o amser fwy nag unwaith. Bu'n darllen y llyfr cyntaf yn gyhoeddus gerbron prifysgol Rhydychen lle, meddai, yr oedd prif ddysgedigion y dydd yn gwrando arno. Rhoddodd Gerallt wledd ardderchog i ddathlu'r amgylchiad. Y diwrnod cyntaf gwahoddwyd y tlodion i'r wledd; yr ail dydd y doctoriaid a'r prif ysgolheigion, y trydydd dydd y gweddill o'r ysgolheigion a threfwyr Rhydychen. Gweithred ddrud urddasol" oedd hon, meddai Gerallt, dan ei ganmol ei hun, "na welwyd ei thebyg yn Lloegr erioed."
Yn ei lyfr ar ddaearyddiaeth yr Ynys Werdd ceir disgrifiad diddorol iawn a gwyddonol o'r wlad honno yn gymhleth â llawer stori anhygoel. Adlewyrcha, y mae'n lled sicr, y ffordd gyffredin o edrych ar bethau yn y cyfnod hwnnw. Y mae yn y llyfr lawer sylw craff, megis lle dywed bod datblygiad cenhedloedd o'r goedwig i'r maes ac i'r dref. Beth yw hyn ond y dosraniad a gydnabyddir yn gyffredin heddiw pan ddywedir bod pobloedd wedi tyfu trwy gyfnod hela ac amaethu i gyfnod diwydiant. Ceir ynddo hefyd lawer sylw treiddgar ynglŷn â'r tywydd ac arferion anifeiliaid, a hynny yng nghanol y chwedlau mwyaf ofergoelus a roed ar bapur erioed.