Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/415

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond ychydig sy'n cofio mai gŵr o Gymru oedd un o brif amddiffynwyr yr Eglwys yn yr argyfwng hwnnw. Ychydig wyddom o'i hanes, ond sonnir am Reginald Pecock yn llythyr swyddogol y Pab wrth ei gyflwyno i esgobaeth Llanelwy fel offeiriad o Esgobaeth Tyddewi, a dywed Fuller ei eni yn Lacharn, Sir Gaerfyrddin.[1] Bu yntau dan addysg yn Rhydychen a gwnaed ef yn gymrawd o Goleg Oriel yn 1417, yn B.D. yn 1425, ac yn D.D. trwy drefniant arbennig yn 1444. 1440 sgrifennodd lyfr o'r enw Donet ar brif wirioneddau Cristnogaeth—llyfr a fu yn lled boblogaidd unwaith. Yn 1447 pregethodd bregeth yng nghymdogaeth y Groes a oedd gynt wrth Saint Paul's yn ninas Llundain, pryd yr ymgymerth ag amddiffyn yr Esgobion rhag ymosodiadau'r Lollardiaid. Yn 1449 ymddangosodd ei brif waith Repressor of overmuch Wyting (Blaming) of the Clergie.

Diddorol yw sylwi i Pecock sgrifennu'r llyfr hwn yn Saesneg, ac nid yn Lladin fel y gwnai dysgedigion yr oes honno yn gyffredin. Yr oedd ganddo resymau neilltuol dros wneud hyn. Yr oedd y Lollardiaid, meddai ef, wedi ennill cymaint o dir ag a wnaethant am eu bod yn sgrifennu yn iaith y bobl, a chredai ef y gellid adennill y werin ond iddynt hwythau hefyd ddefnyddio'r iaith Saesneg yn hytrach na Lladin. Edrychir arno felly fel un o brif hyrwyddwyr yr iaith honno yn yr oesau canol.

Y mae i lyfrau Pecock ddiddordeb neilltuol ar gyfrif y disgrifiad manwl a byw a geir ynddynt o syniadau'r Lollardiaid, a hefyd am y ceir ynddynt rai o'r prif resymau a ddefnyddid mewn cyfnod diweddarach pan oedd y cwestiwn wedi dyfod yn bwnc y dydd. Cydnebydd Pecock fod gwaith y Lollardiaid yn cyfieithu'r Beibl i'r Saesneg wedi creu rhyw gariad rhyfedd ym mynwes y werin tuag ato, ond nid oedd yn barod i gydnabod bod y llyfr bob amser yn arweinydd anffaeledig, oblegid, fel y gwelai'n glir, rhoddai hynny ben ar yr angen am eglwys yn gyfangwbl. Credai y dylai syniadau'r Beibl gael eu beirniadu yn ôl deddfau rheswm, a gofidiai am na ddysgid Rhesymeg yn yr ysgolion fel y medrid ei farnu yn deg. Yn wir, yr oedd Pecock yn llawer mwy rhesymegol na'i wrthwynebwyr, a synnir ni gan debygrwydd rhai o'i syniadau i eiddo'r Crynwyr ar y naill law, a'r Rhesymolwyr ar y llaw arall. Gosodwyd egwyddorion moesoldeb eisoes, meddai, yng nghalon dyn, ond yr Ysgrythur a rydd y dadleniad gorau o'r egwyddorion hynny.

  1. Fuller's Worthies of Wales. Browne Willis's Survey of St. Asaph, I, 80. 397