Ond nid yw yn anffaeledig ac am hynny rhaid wrth ddynion dysgedig, gwŷr wedi eu trwytho yn egwyddorion rhesymeg hefyd, i fedru penderfynu pa mor bell y cyd-red y syniadau sydd ynddo â deddfau rheswm.
Y mae ei ymresymiadau yn lled feichus weithiau, ond y mae ei iaith yn glir ac yn ystwyth, ac erys gwaith yr hen ysgolhaig o Gymro fel cynnyrch nodweddiadol yr Eglwys Gatholig yn nechrau'r cyfnod pryd y galwyd arni i roddi cyfrif am y ffydd a oedd ganddi. Er yr annibyniaeth meddwl a'i nodweddai, nid oedd dim o'r merthyr yn Pecock, a phan ddaeth i wrthdarawiad â'r Eglwys, syrthiodd ar ei fai a chrefu am faddeuant yn ddioed. Treuliodd ddiwedd ei oes yn ymarferol yn garcharor yn Abaty Thorney, swydd Bedford. Ni ellir darllen y cyfarwyddiadau caeth a roed i'r brodyr gan Archesgob Caergaint heb fesur o gydymdeimlad â'r hen ŵr. Nid oedd i fyned y tu allan i'w ystafell ddirgel gaeedig, y gallai weled yr allor a chlywed gwasanaeth yr offeren ohoni. Câi frawd i gynnau ei dân a gwneud ei wely fel y byddai angen. Nid oedd i gael gweled unrhyw lyfr oddieithr llyfr gwasanaeth yr offeren, y Sallwyr, neu Fuchedd a'r Beibl. Nid oedd i gael papur na dim offer sgrifennu. Câi dân os byddai angen amdano, a bwyd a diod fel brawd o'r urdd. Cafodd abaty Thorney £40 am gymryd gofal ohono.[1]
Gellid tybied y buasai'r urddau pregethu—y Ffransisiaid a'r Dominiciaid—wedi bod yn fwy poblogaidd yng Nghymru nag yr ymddengys y buont. Ychydig oedd eu rhif a thlawd odiaeth oedd y tai a feddent, ond nid yw hyn unrhyw fesur o'u dylanwad. Ymddengys y telid cryn barch yng Nghymru fel mewn lleoedd eraill i fywyd hunanymwadol disgyblion Sant Ffransis. Ys dywed Tudur Aled:
Brawd i Sant Ffransys, na bo brych—yn f'wyneb
Pan fynner i edrych;
Yn i grefydd yn gryfwych,
Yn i wisg wyf yn was gwych.
Ond yng nghanol tlodi'r trefydd y ceid y Brodyr Llwydion fynychaf, a dyma, fe ddichon, un rheswm paham eu bod mor brin yng Nghymru. Hefyd, rhaid cofio eu bod yn crwydro o fan i fan fel y byddai galw am eu gwasanaeth, ac ym mhrif ysgolion Lloegr a'r Cyfandir y gwelir y Brodyr Cymreig a berthynai i'r urddau hyn ar eu gorau. Daeth y ddwy urdd hyn yn flaenllaw yn y prifysgolion fel prif noddwyr addysg y dyddiau hynny, ac yn eu mysg ceir aml Gymro.
- ↑ Browne Willis: Survey of St. Asaph, I, 83.