Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/426

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dibynna'n barn ni am lên unrhyw gyfnod ar werth yr hyn a erys o gynhyrchion y cyfnod hwnnw. Ond rhyfyg fuasai tybio bod goreuon cynhyrchion y cyfnodau hyn gennym ni heddiw, ac y mae'n bwysig cadw hyn mewn cof wrth ffurfio barn am gynhyrchion cyntefig unrhyw genedl. Pan gofier bod memrwn yn brin a chrefft sgrifennu yn anodd a dieithr, fe welir pa mor ddamweiniol yw goroesiad rhai cynhyrchion llenyddol a feddwn heddiw. Yn wir, wrth ddarllen aml gynnyrch llenyddol cynnar fel y Gododdin neu, i fesur llai, y Mabinogion, teimlwn mai syllu yr ydym ar weddillion anhyblyg hen garnedd o straeon a fu unwaith yn dalgryf fel mynydd cribog cyn i dreigl yr oesau ei gafnu a'i saernio i'r hyn ydyw heddiw.

Gellir ystyried llên unrhyw gyfnod o fwy nag un safbwynt. Safbwynt crefftwaith yw safbwynt gyffredin beirniaid pob

Nid yw'r bardd neu'r llenor namyn crefftwr a wna gampwaith â geiriau iaith, a diddorol odiaeth yw sylwi ar y modd y cyflawna ei waith. Sut feistr yw'r awdur ar y gelfyddyd anodd o nyddu geiriau? Cydnabyddir ffurfiau llenyddol arbennig fel safon i farnu'r gwaith wrtho, ond nid yw'r safon, mwy na'r ffurf, yn ddigyfnewid. Er hynny, gwae'r neb a geisio ganu ar ffurf newydd neu a faidd awgrymu nad yw yr hen safonau beirniadol yn ddigonol. Ond er hyn i gyd, newidir hwythau yn eu tro i gyfarfod â'r ffurfiau llenyddol newydd a greir o bryd i bryd. Gan yr ysgol hon o feirniaid y ffurf yw'r peth pwysicaf a'i thuedd naturiol yw myned yn ffurfiol a dienaid.

Ond ni bu beirniadaeth erioed, y mae'n debyg, yn fodlon ar ystyried ffurf yn unig, Er mor bwysig yw ffurf, nid yw wedi'r cyfan ond megis gwisg neu blisgyn. Y cnewyllyn neu'r meddwl, y ceisir ei osod allan mewn gwisg, pa mor afler neu gain bynnag y bo, sydd yn bwysig yn ôl barn dosbarth arall. Tuedd y dosbarth hwn yw anwybyddu'r wisg yn gyfangwbl bron. Y gwir yw bod y ffurf a'r meddwl cyn bwysiced a'i gilydd. Gorffwys perffeithrwydd llên mewn cyfuniad perffaith o iaith a meddwl—iaith mor dryloyw nes dadlennir meddwl dyn trwyddi fel y tyrr heulwen trwy niwl bore o haf.

Ac nid cynnyrch personol yn unig yw llên, pa mor gelfydd bynnag fo'r sawl a lywia'r geiriau. Y mae hefyd yn greadig— aeth ei chyfnod a delwedda ynddi ei hun nodweddion hwnnw yn union fel y gwna ei chreawdwr. Cynnyrch ysbryd yr oes—