Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/427

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Zeitgist y bu llawer o sôn amdano rai blynyddau yn ôl—ydyw, ac er i'r ysbryd ddefnyddio unigolyn, nid oes amheuaeth na chlywir adlais ei gyfnod yn lleferydd yr awdur.

Dyma, fe ddichon, y safbwynt mwyaf diddorol i hanesydd cymdeithas. Iddo ef, nid perffeithrwydd celfyddyd ac nid gwreiddiolder neu newydddeb syniadau sy'n bwysig, ond yn hytrach y modd y delweddir syniadau'r cyfnod ynddynt. Ni olyga hyn ddiystyru ceinder crefft a phwysigrwydd drych-feddyliau, ond edrychir ar y cynnyrch llenyddol ym mlaenaf oll fel drych a adlewyrcha yn fwy neu lai cywir syniadau yr oes y perthyn iddi.

A siarad yn gyffredinol, nodweddir llên yr oesau canol gan ddylanwad Lladinaidd. Yn ystod yr oesau tywyll, torrwyd yr hen ymerodraeth Rufeinig yn ddwy ran—adran orllewinol gyda Rhufain yn ganolfan iddi a Lladin fel iaith lên, ac adran ddwyreiniol gyda Chaercystenyn fel canolfan a'r iaith Roeg fel cyfrwng diwylliant. Un canlyniad oedd i'r gorllewin golli ei gysylltiad â diwylliant ac iaith Groeg hyd nes ail-ddarganfuwyd ei thrysorau llenyddol yn niwedd yr oesau canol. Canlyniad arall oedd i'r iaith Ladin ddyfod yn iaith dysg a diwylliant, llywodraeth a chyfraith a chrefydd y gorllewin am oddeutu mil o flynyddoedd, ac erys y traddodiad Lladinaidd. yn sail diwylliant y gorllewin o hyd.

Rhennir llên y cyfnod felly yn ddwy adran—yr adran a sgrifennwyd yn Lladin a'r adran arall a sgrifennwyd yn nhafodieithoedd y gwahanol wledydd. Nid bob amser y cofiwn ni, Gymry, fod ein llenyddiaeth foreaf, fel eiddo pob cenedl arall yng ngorllewin Ewrop, wedi ei hysgrifennu yn Lladin, ac mai yn Lladin y parhawyd i sgrifennu am ganrifoedd. Yn Lladin y sgrifennodd Gildas, a dengys ef, fel y crybwyllwyd eisoes, ei fod yn lled gynefin â'r dull clasurol. Perthyn ef i'r hen fyd yn union fel y perthyn Boethius, a ystyrir fel rheol yr olaf o'r clasurwyr. Yn Lladin y sgrifennai Nennius yn y nawfed ganrif, Sieffre o Fynwy yn y ddeuddegfed, Gerallt Gymro yn y drydedd ar ddeg, a Walter Map, ei gyfoeswr. Yn Lladin y sgrifennwyd Bucheddau'r Saint, a cheir copi bore o'r cyfreithiau yn Lladin. Nid dibwys ein llenyddiaeth Ladin, ond nid bob amser y câi'r sylw a haedda.

Cyffelyb yw stori pob cenedl yn Ewrop, ac yn hyn o beth adlewyrcha llên fore Cymru elfen sydd yn gyffredin yn llên y gorllewin i gyd.

Nodwedd arall, fodd bynnag, yw'r modd yr ymryddha'r gwledydd y naill ar ôl y llall o hualau'r hen draddodiad