Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/428

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lladinaidd. Erbyn dechrau'r oesau canol dechreusid sgrifennu yn iaith y werin bobl. Iaith dysg a diwylliant, ac yn anad dim iaith crefydd, ydoedd Lladin, ond cadwyd yn fyw draddodiadau'r gwahanol genhedloedd nid mewn Lladin clasurol ond yn nhafodiaith y werin. Gryfed oedd dylanwad Lladin, fodd bynnag, nes bu raid i amryw o'r cenhedloedd hyn greu iaith newydd ar gynllun Lladin. Y mae rhan o'r diddordeb a geir mewn astudio llên y cyfnod yn codi o weled ieithoedd newydd yn codi megis o fedd yr hen iaith Rufeinig. Y mae hyn yn amlwg iawn yn y Ffrangeg, er enghraifft, lle gellir gweled geiriau Lladin megis yn cael eu trawsnewid i ffurfio iaith newydd, fel yng nghân Roland yn y Chansons de geste, lle dywed Roland:

Por son signor deit hom sofrir granz mals,

—brawddeg sy'n cyfateb i'r Lladin:

Pro suum seniorem debet homo suffire grandes malos.

Fe wêl y mwyaf anghyfarwydd mai siarad Lladin[1] y mae Roland, ond ei fod yn gwneud hynny yn ei ffordd ei hun. Dyna a wnaeth y Ffrancod a'r Sbaenwyr a'r Italiaid, ac felly y rhowd bod i'r Ffrangeg a'r Sbaeneg a'r Italeg.

Ond nid iaith newydd mo'r Gymraeg. Ychydig ddylanwad a gafodd Lladin ar ei thwf yn ystod y canrifoedd hynny y bu'r ymerodraeth yn llywodraethu'r ynys hon, ac oherwydd hynny datblygodd y Gymraeg i fesur mwy neu lai yn unol â'i theithi naturiol, yn debyg i'r fel y gwnaeth yr Ellmyneg—ac yn union am yr un rheswm. Saif Saesneg rywle rhwng y ddau ddosbarth hyn o ieithoedd, oblegid fe ail-grewyd iaith y Saeson—yr Anglo-Saxon fel y gelwid hi ar y cyntaf rhwng dyddiau Caedmon, oedd yn ei flodau rhwng 660 a 680, a Chaucer, a flodeuai rhwng 1340-1400, ac i ormes a diwylliant y Norman, y naill lawn cymaint a'r llall, y mae diolch am hyn.

Y mae'n amlwg, felly, fod y tu ôl i lên yr oesau canol yng Nghymru hen draddodiad llenyddol brodorol. Pa mor hen ydoedd ni pherthyn i ni geisio penderfynu, er bod sail i gredu bod peth o leiaf o waith y cynfeirdd yn perthyn i gyfnod mor fore a'r chweched ganrif.

Dengys y cyfreithiau hefyd y safle anrhydeddus oedd i'r Pencerdd a'r Bardd Teulu ymysg swyddogion y llys. Awgryma'r cyntaf o'r enwau hyn nodwedd bwysig sy'n

  1. Nid Lladin clasurol mohono, wrth gwrs, ond Lladin fel y siaredid ef gan y milwyr a swyddogion eraill yr Ymerodraeth.