Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/430

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(3) Ni cherddaf, nid af o dy Ymhoen ydd wyf am hynny, Nid oes fyd, na rhyd, na rhiw, Na lle rhydd, na llawr heddiw. Ni'm twyllir o'm tŷ allan Ar air merch i'r eiry mân. —DAFYDD AP GWILYM.

Awgryma un beirniad llenyddol amlwg[1] fod y disgrifiadau o natur er ei mwyn ei hun a geir yn llenyddiaeth fore Lloegr yn rhywbeth nas ceir mewn barddoniaeth gynnar.

Ond camgymeriad yw hyn fel y dengys y gydnabyddiaeth leiaf â llenyddiaeth gyntefig Cymru. Er y cyfnewid a fu ar y ffurfiau llenyddol rhwng y chweched ganrif a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, rhed cariad at natur yr un mor ddigamsyniol trwy englynion y misoedd a thrwy gywyddau Dafydd a'i gyfoeswyr i "fwynderau Mai." Haedda rhai o'r englynion bore eu cymharu â cheinion disgrifiadol llenyddiaeth Groeg. Perthyn iddynt yr un sylwadaeth fanwl, yr un cynildeb ymadrodd a'r un crefftwaith a'u gwna yn emau llenyddol digymar bron. Wele ychydig enghreifftiau:

Gwyn ei byd y fedwen yn nyffryn Gwy,
Y syrth ei changau bob un, bob dwy.*****Y ddeilen hon, neus cynired gwynt
Gwae hi o'i thynged;
Hi, hen; eleni y ganed!*****Eiry mynydd-llwm brig on;
Gorchwiban gwynt gan flaen ton;
Trydydd troed i hen ei ffon.


Ceir mwy o nwyd yng nghanu'r cyfnod nesaf, ac nid oes neb, yn sicr, wedi gwneud gwell defnydd o ruthriadau natur i ddisgrifio'r storm oedd yn ei fynwes ei hun oherwydd cwympo o'n Llyw Olaf nag a wnaeth Gruffydd at yr Ynad Coch:

Oni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?
Oni welwch y deri yn ymdaraw?
Oni welwch y môr yn merwinaw'r tir?
Oni welwch y gwir yn ymgyweiriaw?
Oni welwch yr haul yn hwylaw'r awyr?
Oni welwch y syr wedi syrthiaw?
Pam na chredwch Dduw, ddyniadon ynfyd,
Oni welwch y byd wedi bydiaw?
Och hyd atat, Dduw, na ddaw môr tros dir,
Pa beth yn gedir i ohiriaw?


  1. Y diweddar Stopford Brooke: English Literature from the beginning to the Norman Conquest. P. 90 et seq.