Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/432

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Etifeddodd y diriogaeth hon hefyd draddodiadau eraill o gryn ddiddordeb. Wedi dyddiau'r ymerodraeth diffeithiwyd y wlad gan y Visigothiaid a'r Bwrgwndiaid, ac yn ddiweddarach gan ddylanwad mwy estronol fyth, sef dylanwad y Saraseniaid. Yr oedd cyfran helaeth o'r Ysbaen eisoes ym meddiant y bobl hyn, a thrwy briodas daeth Catalonia, adran bwysig o'r tiriogaethau, i feddiant tywysog Profens.. Nid bob amser y cofiwn i'r Arabiaid hyn ddiogelu cryn lawer o ddiwylliant yr hen fyd a'i drosglwyddo i orllewin Ewrop.

Nodweddir barddoniaeth y Trwbardiaid gan fesur o nwyfiant, o ramant a lliw nas ceir mewn barddoniaeth fore, ac awgrymir mai o'r dwyrain y cafwyd hwy. Daeth y Dwyrain a'r Gorllewin i gyfathrach agosach fyth â'i gilydd trwy gyfrwng y Crwsâd, a bu William o Poitiers—y cyntaf o'r Trwbardiaid— yn ymladd yng Nghrwsâd 1101. Tlysni a mwynder merch yw hoff destun y beirdd hyn, ond canant yn fynych mewn modd arwynebol dinwyd. Chwarae â theimlad a wneir, yn hytrach na rhoi mynegiant i gariad gwir. Ond yn y caneuon hyn, fe ddichon, y ceir y syniad gorau am sifalri'r oesau canol. Gwthiwyd y syniad hwn am sifalri i'r fath eithafion nes iddo fynd yn wrthun, ond dichon bod rhaid wrth syniadau o'r fath cyn y medrwyd dofi barbareiddiwch y marchogion. Ac yn wir, nid yw barddoniaeth y Trwbardiaid bob amser yn rhydd oddi wrth yr elfen anllad yr ymdrechent ei darostwng—trwy wneud o'r feinir ryw hanner duwies i'w haddoli yn hytrach na merch i'w charu.

O ganlyniad, barddoniaeth delynegol yw barddoniaeth y Trwbardiaid. Ac yr oedd hynny ynddo'i hun yn nodyn newydd ym marddoniaeth Ewrop. Ni'n synnir ychwaith pan ddywedir mai iddynt hwy y mae'r gorllewin yn ddyledus am yr odl a'i bod yn deillio yn y pen draw o'r Arabeg. Dibynnai barddoniaeth glasurol ar fydr, hynny yw, ar hyd y llinellau, ond dibynnai'r farddoniaeth newydd ar acen a sain. Ym marddoniaeth y gogledd—barddoniaeth yr Eingl Sais, er enghraifft—dibynnid ar ddilynedd y cytseiniaid, ac oherwydd hyn byddai'r farddoniaeth yn fynych yn arw a chlogyrnaidd. Ond dibynnai'r Trwbadwr ar seiniau esmwyth ei lafariaid cyfoethog, a'r ffaith y disgwyl y glust am adsain y seiniau meddal a'u galluogodd i ganu ar gymaint o wahanol ffurfiau.

Y mae ysgolheigion Cymreig, fel y diweddar Athro W. Lewis Jones a'r Athro Ifor Williams, wedi llwyddo i ddangos dyled llên Cymru i'r beirdd hyn. Yn y lle cyntaf, caneuon serch yw'r cwbl bron o'u cynhyrchion mwyaf nodweddiadol, a