Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/434

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dduach yn hanes eglwys Rufain na'r modd gwaedlyd y rhodd— wyd pen ar yr heresi, ac ar yr adfywiad llenyddol, o ran hynny, yng nghyflafan ofnadwy yr Albigensiaid yn nechrau'r drydedd ganrif ar ddeg. Y mae rhyw dinc yn rhai o gywyddau Dafydd, fel yn y cywydd isod, sydd yn gwneud i ni feddwl am yr adfywiad dysg hwnnw a fu yn y bymthegfed ganrif yn Florence—adfywiad a fu'n drech na lid yr eglwys y tro hwnnw. Meddai'r Brawd Llwyd—y Ffransisiad—wrtho:

Mi a rown it gyngor da,
O cheraist eiliw ewyn,
Lliw papir, oed hir hyd hyn.
Llaesa boen y dydd a ddaw,
Lles yw i'th enaid beidiaw,
A thewi a'r cywyddau,
Ac arfer o'th baderau.
Nid er cywydd nac englyn
Y prynodd Duw enaid dyn.
Nid oes o'ch cerdd chwi y glêr
Ond truth a lleisiau ofer,
Ac annog gwŷr a gwragedd
I bechod ac anwiredd.
Nid da'r moliant corfforawl
A ddyco'r enaid i ddiawl.


Ac ateb Dafydd:

Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hen ddynion.
Ni chyll Duw enaid gŵr mwyn
Er caru gwraig na morwyn.
Tri pheth a gerir drwy'r byd,
Gwraig, a hinon, ac iechyd,.
Merch sydd deca blodeuyn
Yn y nef ond Duw ei hun!


Ac mewn cywydd i'r lleian dywed:

Er Duw paid â'r bara a'r dŵr,
A bwrw ar gasau'r berwr.
Paid, er Mair, a'r pader main,
A chrefydd menych Rhufain.
Dyred i'r fedw gadeiriog,
I grefydd y gwŷdd a'r gôg.


Yng ngogledd Ffrainc bu datblygiad llenyddol arall ymhen oddeutu can mlynedd wedi'r deffroad ym Mhrofens. Gymaint oedd y gwahaniaeth rhwng dwy adran y wlad y pryd hwnnw nes bod iddynt ddwy dafodiaith wahanol—y Profensal yn y de a'r Ffrangeg yn y gogledd. Telynegion, fel y sylwyd, a geir gan feirdd y de, a chanent ar bron bob rhyw fesur. Yr oedd yr odl iddynt fel tegan yn nwylo plentyn, ac nid oes diben ar y ffurfiau a geir ganddynt. Eu hoff destun oedd serch, a