Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/436

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe'n synnir pan atgofir i ni nad oes sôn am Arthur na'i farchogion yn y Pedair Cainc. Perthyn i gyfnod diweddarach y mae'r straeon lle ceir sôn amdano ef, ac y mae rhai ohonynt, megis "Iarlles y Ffynnon," yn perthyn, o ran nodwedd, i ramantau'r bardd Ffrengig, Chretien de Troyes. Ai rhaid cyfaddef, felly, mai creadigaeth y Norman yw Arthur?

Y mae problemau diderfyn bron ynglŷn â chwedloniaeth Arthur. Beth bynnag am darddiad y chwedlau hyn, nid oes le i amau na chyfoethogwyd llawer arnynt gan chwedleuwyr Normandi, ac iddynt ddyfod yn ôl i Gymru wedi eu gwedd— newid. Diau i'r rhamantau Normanaidd symbylu rhywrai yn y wlad hon i roddi ar gof a chadw rai o'r chwedlau hynny a oedd hyd hynny megis yn hofran yn yr awyr ac wedi eu trosglwyddo ar draws y canrifoedd ar dafod leferydd yn unig. Pwy fu â rhan yn y gwaith oll-bwysig o'u hysgrifennu, anodd, hwyrach, yw penderfynu erbyn hyn. Ond llwyddodd yr Athro W. J. Gruffydd i ddangos mai un o'r enw Bledri, neu Bleri, o bosibl, a haedda'r clod,[1] a dywed yr Athro Morgan Watkin fod â fynno'r mynach Cistercaidd rywbeth â'r gwaith."[2]

Awgryma Gwynn Jones hefyd reswm paham na cheir y chwedlau hyn ar gân fel y ceir mewn gwledydd eraill. Ffurfiai'r beirdd, yn enwedig y penceirddiaid, fath o urdd neu gorfforaeth debyg i urdd y crefftwyr, a than ddylanwad yr eglwys, o bosibl, caethiwyd hwy i ganu ar destunau arbennig wrth gynllun neilltuol. Ystyrid bod canu rhyw sothach o gerddi yn annheilwng o'u proffes. Nid oeddynt i ganu ond i'r gwir, hynny yw, y gwir llythrennol, a gwnaent hynny mewn dull ystrydebol trwy gyfarch y Drindod, a hynny mewn termau Lladinaidd Eglwysig, fel y gwna Meilyr yn ei gân ar wely angau[3]:

Rex Regwm rybyt rwyt i foli.

Bid a fo am hyn, cytunwn oll fod llawer mwy o gyfoeth ac o geinder ac o wir farddoniaeth yn y rhamantau hyn nag ym marddoniaeth y cyfnod, ac fel portread dihafal bron o rwysg y bywyd ffiwdalaidd yr edrychir arnynt gan efrydwyr cym— deithas. Beth bynnag am eu tarddiad a'u treigl a'r haenau

  1. W. J. Gruffydd: The Mabinogion yn Transactions Cymmrodorion Society, Session 1912—13, p. 54. Sôn Gerallt am chwedleuwr enwog oedd yn byw ychydig cyn ei amser ef o'r enw Bleddercus (Bledhericus). Yr un gŵr, mae'n debyg—Through Itinerary Wales (Everyman's Edition), p. 185.
  2. Morgan Watkin: "French Literary Influence in Mediaeval Wales," Transactions Cymmrodorion Society, 1919—20, p. 9.
  3. T. Gwynn Jones: "Bardism and Romance," Transactions Cymmrodorion Society, 1913-14.