Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/437

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

henafol a ddadlennir ynddynt o bryd i bryd, nid oes modd amau'r awyrgylch Normanaidd ffiwdalaidd y sgrifennwyd hwy ynddi. Y mae amrywiaeth barn, hwyrach, parthed yr amser y casglwyd hwy ynghyd, ond pa bryd bynnag y bu hynny, y mae holl rwysg a rhamant yr oesau canol i'w deimlo yn cerdded trwyddynt. Ac eto y mae'r iaith yn aml cyn loywed â'r grisial. Os mynnir gwybod pa sut beth oedd yr oesau canol, darllener y Mabinogion, nad oes eu rhagorach mewn unrhyw lenyddiaeth fel portread o'r cyfnod cymhleth hwn—ei farbareiddiwch a'i gwrteisi, ei ddewrder a'i sifalri, ei ofergoel— edd a'i ffydd, ei frwydrau a'i gampau, ei drefydd a'i wersyll— oedd, ei blasau a'i hofelydd, ei gân a'i alar, ei neithior a'i gynhebrwng y maent oll yma. Ymdeithia bywyd yn ei holl agweddau ger ein bron, fel pe baem yn gwylio gosgorddlu ar ei ffordd o'r crud i'r fynwent.

Arthur a'i Farchogion.