Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ystafell Cynddylan a'm gwân ei gweled
Heb doed, heb dân:
Marw fy nglyw, byw fy hunan.

Dichon hefyd mai cyfeiriad at dynged un o drefydd Rhufeinig gororau Cymru a geir yn y llinellau cynnil:

Y dref wen ym mron y coed
******Ar wyneb ei gwellt y gwaed.

Ni ddihangodd y wlad ychwaith rhag ymweliad y Pla—y Fad Felen. Hyhi a ddygodd einioes Maelgwn Gwynedd wedi iddo fod yn rhythu arni mewn braw trwy dwll y clo yn Eglwys Rhos, gerllaw Llandudno.[1] Yno, medd traddodiad, y cwsg ei hir hun, a ddaeth yn y man yn ddihareb gwlad.

O dipyn i beth, fodd bynnag, peidiodd y llwythau â'u hymfudo, a chafwyd egwyl i orllewin Ewrop. Dechreuodd yr anwariaid ymlonyddu a sylweddoli mai gwell adeiladu na dinistrio. Gwelsant fod yn yr hyn a ddinistriwyd rywbeth o wir werth iddynt hwy, a dechreuasant ddynwared gwareiddiad Rhufain. Un o arwyddion cyntaf y dyddiau gwell oedd sefydlu ymerodraeth y gorllewin gan Siarlymaen yn y flwyddyn 800; ond, ysywaeth, byr fu parhad y gwelliant, oherwydd torrodd tonnau newydd dros y gwledydd. Ymosodwyd arnynt gan y cenhedloedd duon o'r gogledd—y Daniaid a'r Vikingiaid—a syrthiodd y gorllewin i bwll anobaith unwaith yn rhagor.

Ond yr oedd tro ar fyd wedi dyfod, er hynny. Er cymaint y difrod a wnaeth y cenhedloedd duon, ni chyflawnasant eu bwriad cyn llwyred ag y gwnaeth eu rhagflaenwyr ar ymerodraeth Rufain. Llyncwyd rhai ohonynt gan y cenhedloedd y ceisient eu darostwng—er enghraifft, dyna hanes Rolff y Gogleddwr yn Normandi; a chadwyd eraill o fewn terfynau arbennig fel y gwnaeth y brenin Alffred â'r Daniaid yn Lloegr. Daethai pobloedd y gorllewin erbyn hynny yn ddigon cryf naill ai i wrthsefyll ymosodiadau neu i gymhathu'r ymosodwyr i mewn i'w bywyd eu hunain. Yr oedd hynny yn arwydd sicr bod yr oesau tywyll yn dirwyn i ben, a bod gwawr pethau gwell ar dorri ym mywyd Ewrop. Hanes y wawr honno'n torri, esgyniad yr haul i'w anterth tua'r drydedd ganrif ar ddeg, a'r modd y duodd y ffurfafen drachefn yn ystormydd a brwydrau'r Diwygiad Protestannaidd—hynyna'n fyr yw hanes yr oesau canol.

  1. 10 Iolo MSS., 78.