Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/455

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nodiadau ar y Darluniau.

DOLWYDDELAN: Erbyn diwedd yr oesau canol yr oedd yr ardal hon, fel ardal Mawddwy, wedi dod yn gartref herwyr a gwylliaid. Yma y bu Hywel ap Ieuan ap Rhys Gethin yn ymryson am y llaw uchaf â Dafydd ap Siencyn a'i wŷr, a oeddynt oll wedi eu gwisgo mewn gwyrdd. Yn adeg Harri VII prynwyd y castell a'r tiriogaethau oedd yn perthyn iddo gan Feredith ap Ieuan, taid Siôn Wyn o Wydir; a bu i Siôn Wyn, yn gam neu'n gymwys, ran amlwg mewn dwyn trefn allan o'r anhrefn. [O ddarlun gan David Cox.] Wyneb ddarlun

CROES Y PISTYLL: Saif y groes hon ar hen ffordd y Pererinion yn agos i ffermdy'r Pistyll yn Lleyn. Disgwylid i denantiaid y Pistyll hyr— wyddo taith y pererinion ar eu ffordd i Enlli trwy roi llety noson iddynt os byddai galw am hynny, neu trwy ddarparu bara a chaws. i'w cario dros Fwlch yr Eifl. Ceir croesau cyffelyb mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Saif un yn agos i Lanaelhaearn ar y ffordd hon, a cheir un yn agos i Nefern, Sir Benfro, ar lwybr y Pererinion i Dyddewi, fel y tybir. O'r" Arch. Cam.", V, XIII, 170. [Bloc yn fenthyg gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.]

CAER DREWYN A CHAERHUN: Cymharer safle y Ddinas Gymreig, oblegid dyna mewn gwirionedd yw Caer Drewyn, gyda'r Gaer Rufeinig. Saif y naill tua 950 o droedfeddi uwchlaw dyffryn Dyfrdwy, ar gwrr y mynyddoedd sy'n ymestyn i gyfeiriad Dyffryn Clwyd. Saif y llall ryw 50 troedfedd uwchlaw afon Gonwy. O'r "Arch. Cam.", VII, II, 109 a VI, 300. Tudalen I [Blociau yn fenthyg gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.] Tudalen 4 a 5

LLOFFT Y GROG, LLANANNO, SIR FAESYFED: Yn natblygiad ac addurniad Llofft y Grog ar Gysgodlen (Screen) y cyrhaeddodd y cynllun eglwysig Celtaidd ei berffeithrwydd, ac yn ffodus y mae gennym amryw enghreifftiau rhagorol ohonynt yng Nghymru. Perthyn y rhan fwyaf ohonynt i'r 15fed ganrif, a thybir mai i ddiwedd y ganrif honno y perthyn cysgodlen Llananno. Darlun ohoni wedi'r atgyweiriad diweddar a fu arni a geir yn yr Inventory of Ancient Monuments, Radnor, td. 59. O'r Mont. Coll., VII, 61. Tudalen 7

SANT IAGO COMPOSTELLA (MAES Y SER): Dyma gyrchfan y pererinion hynny a ymwelai â San Siam yn yr Ysbaen. Yn y sgrin a welir yn y darlun y gorffwys creiriau'r Apostol Iago. Deuwyd o hyd i'w weddillion mewn canlyniad i freuddwyd a gafodd yr Esgob Theodomir, un ai yn 812 neu 816.

"Arferai'r pererinion eu rhannu eu hunain yn finteioedd o gylch yr allor ac arferent ganu, rhai gyda'r dympan, rhai gyda'r bib, eraill gyda'r delyn Gymreig neu'r crwth." Codex of Pope Calixtus II, circa, 1140. [Darlun yn fenthyg gan y Booth Steamship Co.] Tudalen 9

PERERIN, oddi ar gerflun yn Eglwys Llandyfodwg, Sir Forgannwg. Ber oedd gwisg y pererin bob amser er mwyn hwylustod teithio. Nid oedd ganddo ddim i'r daith ond ysgrepan ar ei gefn i gario ei ychydig angenrheidiau, a ffon yn ei law. A barnu oddi wrth yr ysgrepan yn y darlun, sydd a thri " tassel" yn hongian wrthi, yr oedd y pererin hwn yn ŵr o gryn urddas. Nid oedd y pererin ychwaith i eillio ei farf nes dychwelyd o'r daith. Pan ddeuai yn ôl, fodd bynnag, byddai wedi ei wisgo â phob math ar addurniadau,