the name of a gate caullid Porth Hogan by N. and the name of a nother callid Porth Clays by S. Dee syns changing the botom rennith now thoroug the mydle betwyxt thes 2 gates one being a mile dim. from the other. [O ddarlun gan Gastineau.] Tudalen 28
TY DU A GWYN, Llanfeiglo, Llanfyllin: Saif y tŷ hwn, sy'n nodwedd— iadol o dai y Goror, ar gwrr hen ffridd Llanfeiglo y sonnir amdani yn Siartr Llanfyllin. Gweler tudalen 184. Am enghreifftiau godidog o'r un adeiladwaith gweler cyfrolau y Mont. Coll., 17, 18, 19, 21 a 22. Tudalen 30
EGLWYS MELVERLEY: Wedi ei gwneud o'r un defnydd â'r tai du a gwyn. Ffrâm o goed sydd i'r eglwys hon a cheir eglwysi cyffelyb yn Nhrelystan a Llandyssil, Sir Drefaldwyn. Dyma ddywed hanesydd esgobaeth Llanelwy amdani: Framework being of timber strongly bound together longitudinally and compacted internally by 2 rude and massive frames of beam work which divide the body of the Church into chancel, nave and ante chapel. The interior spaces of the walls being filled in with wattle and daub—the most primitive form of lath and plaster. [Bloc yn fenthyg gan Mr. J. H. Profit, Croesoswallt.] Tudalen 34
CLOCH SANT RHUDDLAD, ym mhlwyf Llanrhuddlad, Môn: Cloch law oedd y gloch a ddefnyddid yn yr Eglwysi Celtaidd bore. Fe gofir am y gloch neu "Fangu Dewi" oedd yn Eglwys Glascwm, Sir Faesyfed, yn amser Gerallt Gymro. Fe'i dygwyd gan rhyw wraig, meddai Gerallt, ai rhoi i'w gŵr, oedd ar y pryd yn garcharor yng Nghastell Rhayadr Gwy, gan ddisgwyl y buasai yn foddion i'w ryddhau, ond fe'i dygwyd gan geidwad y carchar. Erbyn y bore yr oedd yr holl dref wedi ei llosgi oddieithr yn unig y lle y crogai'r gloch.
Yn anffodus y mae" Bangu Dewi" wedi diflannu, ond y mae cynifer â chwech o glychau cyffelyb yn aros o hyd. Cloch Llanrhuddlad yw'r lleiaf ohonynt. Nid yw ond 4 modfedd o uchder wrth 24 ar draws ei gwaelod. O'r "Arch. Cam.", VII, VI, 327. [Bloc yn fenthyg gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.] Tudalen 35
SANT GOVAN, Penfro Un o gapeli y saint bore y ceir nifer ohonynt ar draeth Penfro. Saif hwn ym mhlwyf Bosherston. Y mae cynifer a 52 o risiau yn arwain i lawr ato o Drefalen. Mesur yr ystafell 18 troedfedd wrth 12, ac ohoni ceir agoriad i mewn i ystafell arall yn y graig. Ceir ynddi allor gerrig a ffenestr fechan i'w goleuo. Perthyn yr adeilad i'r 13eg ganrif. Ceir ffynnon Govan gerllaw iddo. Tudalen 37
WELCH GATE, Amwythig: Tynnwyd i lawr y tŵr oedd ar yr hen Bont Ar un tu iddo, fel y sylwir, yr oedd cerfddelw Richard, Dug York, tad Edward IV. er yr haerai rhai mai cerfddelw Llywelyn Fawr, neu Llywelyn Drwyn Dwn yw. Dywed hen draddodiad i Edward I yn ei gynddaredd geisio dinistrio'r cerflun. "Edward I, a cruel mortheringe enemie of the Brittaines nobles and Princes wanted to deface it but could not because of the nose of Llewelin Drowin Don which was flat." [O Owen and Blakeway's " History of Shrewsbury," td. 225.] Tudalen 40
PONT LLANGOLLEN: Dywedir mai John Trefor II, Esgob Llanelwy, 1395—1411, adeiladodd y bont gyntaf, ond ymddengys nad yw'r bont bresennol yn hyn nag amser Elizabeth. Dywed Jusserand, yn ei lyfr diddorol ar Wayfaring Life in the Middle Ages, amdani: "A four arched bridge built in the 14th century over the Dee is to be seen at Llangollen. The arches are unequal in size for the architect in this and in many other cases minding more the solidity of the structure than the uniformity built the piers at the places where the presence of rocks in the bed of the river made it most convenient." Dinistriwyd un o'r bwâu pan wnaed y Rheilffordd. "Beauties of England and Wales," td. 560.] Tudalen 44