DRWS GORLLEWIN YSTRAD FFLUR: Yn groes i'r arfer gyffredin fe sylwir nad oes gapan (capital) ar ben pileri'r drws mawreddog hwn, ond rhed y bwa a'r piler i'w gilydd heb doriad o fath yn y byd. (Ceir y nodwedd hon yn nrws gorllewin Eglwys Llanbadarn Fawr.) Yn clymu'r pileri yn ei gilydd ceir rhywbeth sy'n edrych yn debyg i ffon bugail neu fagl esgob. Ni cheir y math hwn ar ddrws yn y wlad hon, ond fe geir rhywbeth cyffelyb yn Iwerddon. Tudalen 46
PERSON PLWYF, Dafydd Ddu Hiraddug,(?) Ficer Tremeirchion: Y mae'r cerflun hwn, sy'n gorwedd dan ganopi addurnol yn Eglwys Tremeirchion, yn un o'r rhai mwyaf diddorol a feddwn. Yn anffodus, ymgymerodd rhywun â'i baentio'n ddu. Y mae'r ficer wedi ei wisgo yn ei lawn wisg offeiriadol—yr amis, y casul, yr alb, y freichled a'r ystôl. Y casul oedd y wisg a gymerodd le'r hen wisg offeiriadol Geltaidd y Pallium. Gwisgid honno gan y Rhufeiniaid a diau mai ganddynt hwy y cafodd yr Eglwys Geltaidd hi. Nid oedd y casul ond math o gylch o liain neu ryw ddefnydd arall a thwll ynddo i roi'r pen drwodd. Y mae'r casul yn yr enghraifft hon yn helaeth dros y cefn a'r breichiau ac yn terfynu yn big y tu blaen, gydag ymylwaith aur wedi ei weithio ac edau a nodwydd. Addurnir y freichled a'r ystôl hefyd, ac ar yr alb a'r amis y mae quatre—foil bychan wedi ei weithio. Y mae'r gwallt yn hir ac yn syth, y talcen braidd yn isel, y trwyn yn fawr a'r en yn hir. Yr oedd Dafydd yn ei flodau tua 1340. Cyf— ieithodd Dafydd 26 o'r Salmau ar gynghanedd i'r Gymraeg—yr ymgais gyntaf, mae'n debyg, i wneuthur hynny. Tybid unwaith hefyd iddo gyfieithu Llyfr Gwasanaeth Mair i'r Gymraeg, ond cytunir bellach mai mynach o'r enw Dafydd Ddu o Fynachlog Glyn Nedd a wnaeth hynny. (Gwêl Cymru, Ionawr, 1893.) O dan y cerflun ceir yr arysgrif a ganlyn: "Hic jacet David f'Kovel f'Madoc." O'r "Arch. Cam.", V. XIV, 109. [Bloc yn fenthyg gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.] Tudalen 50
Y GWESTY A'R SELER, MAESGLAS (Basingwerk): Yn anffodus y mae'r cwbl bron o'r Gwestai oedd mewn cysylltiad â mynachlogydd Cymru wedi diflannu yn llwyr. Ond yr oedd Gwesty y Maesglas yn weddol gyflawn hyd yn ddiweddar. Bellach nid oes yn aros ond y muriau ac un neu ddau o'r cyplau. [Bloc yn fenthyg gan y Llandudno Field Club.] Tudalen 52
CASTELL EWLO, Sir Fflint: Cynllun o gastell yn arddangos tŵr Cymreig. Am y nodwedd ddiddorol hon, gwêl erthygl Mr. W. J. Hemp, Cymmrodor, Cyf. XXXIX, td. 4—20. O'r" Cymmrodor," Cyf. XXXIX. Tudalen 56
EGLWYS LLANWDDYN yn 1684: Perthynai'r Eglwys hon i'r Ysbytywyr a oedd a chell ganddynt ar y mynydd rhwng Llanwddyn a Chwm Cownwy. O Lawysgrif Thomas Dyneley yn ei Progress of the Duke of Beaufort through Wales in 1684. O'r "Mont. Coll.", XXV, td. 115. Tudalen 58
Yr olygfa ger YSBYTY, LLANWDDYN: Fel lle yr hen Eglwys yr adwaenir y fan weithian. Erbyn hyn nid oes ond ychydig gerrig i ddynodi'r fan lle bu, ond pery Ffynnon y Mynaich, sydd gerllaw, i fwrlymu o hyd. Mesura'r adfail 42 troedfedd wrth 15. Tudalen 61