Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/461

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MELIN DDŴR. Sonia awduron Rhufeinig fel Pliny a'r bardd Celtaidd Ausonius o Fordeaux am felin ddŵr. Yr oedd gan y Groegiaid hefyd felin ddŵr, ond melin ar olwyn ar ei gorwedd oedd honno, ond yr oedd y felin Rufeinig ar gynllun ein melin ni. Nid oes sicrwydd pa bryd y daeth i'r wlad hon, ond fe fentra yr hen ramantydd hwnnw, Iolo Morgannwg, ddywedyd mai yn y flwyddyn 340 y bu hynny. Yr oedd hyn, y mae'n debyg, tua'r adeg pan ddechreuodd Rhufain ei hun fabwysiadu'r felin newydd. Ceir amryw gyfeiriadau yng nghyfreithiau Hywel at y felin a'r argae (Ancient Laws, I, 178), ac hefyd gyfeiriad cynnar iawn at hawl yr arglwydd i orfodi ei denantiaid i fynd a'u hyd i'w falu i'w felin ef. (Bk. IX, Ch. xxiii.) Sylwer ar y trapiau i ddal llyswenod. [O'r "Luttrell Psalter," B.M. MSS Royal, 10 E. IV. [Trwy ganiatâd Mri. Cassell a'i Gwmni.] Tudalen 109

MELIN WYNT, 1338-44: Y cyfeiriad pendant cyntaf at felin wynt yn y wlad hon yw at y felin a godwyd gan y Deon Herbert yn Bury St. Edmunds, ag y bu raid iddo ei thynnu i lawr ar orchymyn yr Abad Samson. Yr oedd hyn yn 1191 (Chronicle of Jocelin of Brakelond, p. 88). Tua 1195, medd Du Cange, y bu i'r Pab benderfynu y dylid codi degwm arnynt awgrym eu bod yn rhywbeth newydd. Nid oes sicrwydd, fodd bynnag, pa bryd y dechreuwyd eu hadeiladu, ond nid oes cyfeiriad atynt yn llenyddiaeth yr hen fyd, ac felly y mae lle cryf i gredu mai creadigaeth yr oesau canol yw'r felin wynt. O M.S. Bodley, 264. [Bloc gan Wasg Rhydychen.] Tudalen 115

HEN ARADR KENT: Rhydd y darlun hwn o aradr a ddefnyddir o hyd yng Nghent syniad gweddol dda am faint ac afrosgedd rhai o'r hen erydr. O"Agric. and Soils of Kent, Surrey and Sussex," p. 22. [Trwy ganiatâd Gweinyddiaeth Amaethu Llundain.] Tudalen 118

ARADR A'R GEILWAD: Sylwer fel y mae'r geilwad yn cerdded yn wysg ei gefn gan symbylu'r ychen. Allan o Galendar a geir ar ddechrau Llyfr Emynau yn perthyn i'r 11eg ganrif (MS. Cotton Julius, A VI). [Bloc gan Macmillan a'i Gyf.] Tudalen 119

BETINGO, BATIO NEU DONNI: Nid yw'r dull hwn o aredig-yr hynaf yn bod wedi cwbl farw allan eto. Darlun o Edward Jones, Nant y Wern, Llangynog, wrth y gwaith. Tudalen 121

ARADR Ychydig debygrwydd sydd yn yr aradr hon i'r aradr fel yr elfennir hi gan Hywel Dda. Tudalen 123

O Lawysgrif Llanstephan yn y Llyfrgell Genedlaethol. MERCHLYN BACH: Dengys y plan hwn o'r Merchlyn Bach yn agos i'r Ro Wen, Dyffryn Conwy, fel y bu i'r hen gynllun o adeiladu fel y portreadir ef yn y cyfreithiau barhau. Am engreifftiau eraill gweler The Old Cottages of Snowdonia by Harold Hughes and Herbert L. North. O'r "Old Cottages of Snowdoria," p. II. [Bloc yn fenthyg gan H. H. Hughes.] Tudalen 125

CWM LLECH, PENNANT MELANGELL: Cartref Cadwaladr Roberts, bardd a chyfoeswr Huw Morus, Pont y Meibion. Gwelir ei enw a'r dyddiad C.R. 1665 wedi ei naddu uwchben y ffenestr. Ceir dwy gân o'i eiddo yn y Flodeugerdd. Tudalen 127