Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/464

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CROES FARCHNAD, HOLT: Yr oedd Holt yn fwrch unwaith ac yn brif le arglwyddiaeth Maelor Gymraeg a Iâl. Adeiladwyd y Castell gan John de Warenne tua diwedd y 13eg ganrif, ond nid ymddengys i unrhyw ymgais gael ei gwneuthur i ddiogelu'r Bwrch trwy godi mur o'i amgylch. Nid oes yn aros ond adran o'r groes yn unig. Cyfeirir ati yn adroddiad John Norden yn 1620. [Darlun gan Mr. W. D. Williams, Coleg Harlech.] Tudalen 193

WRTH FEDD WILLIAM JONES A'I BRIOD YN EGLWYS YR ABATY, AMWYTHIG Gwêl td. 206. Wrth ben y cerflun ceir a ganlyn: "Guilelimus Jones Aldermanne Villae Salopiae et Aelianora uxor ejus jacent hoc monumento." Symudwyd y cerflun o Eglwys St. Alkmund yn 1828. Tudalen 196

JONES'S MANSION, WYLE COP, AMWYTHIG Cartref William Jones y Brethynnwr. Dengys y tai godidog hyn-ac yr oedd amryw ohonynt yn sefyll yn Amwythig ddechrau'r ganrif ddiwethaf y cyfoeth oedd yn nwylo'r Brethynwyr llwyddiannus. Daeth y tŷ i feddiant William Jones tua 1587-8, ac ymddengys mai efo a adeiladodd yr adran sy'n wynebu'r heol, ac yn un o'r ystafelloedd hyn ceir pais arfau ei deulu. Yr oedd ganddo fab, o'r enw Thomas Jones, a gyfenwid Rich" Jones, ac efò a adeiladodd "Master Jones, the Lawyer's Mansion," yn agos i Eglwys Fair, un o'r tai gwychaf yn y dref. Apwyntiwyd ef gan Siarl I yn Faer cyntaf y dref, a bu'r Tywysog Rupert yn aros dan ei gronglwyd yn 1644. Mab iddo ef oedd y Prif Farnwr Thomas Jones, a gododd y cerflun i'w daid a'i nain sydd yn Eglwys y Fynachlog. [O Owen and Blakeway's "History of Shrewsbury," 404. Tudalen 200

STRYD FAWR CONWY: Ar y chwith gellir gweled un o'r siopau neu stondinau oedd mor nodweddiadol o drefydd yr oesau canol. Am ddarlun cyffelyb o siopau yr oes honno gwêl History of Shrewsbury, Owen and Blakeway. [Bloc gan y Llandudno Field Club.] Tudalen 204

ALLOR SYMUDOL Mesurai'r rhain fel rheol ryw 20 modfedd wrth 15, a defnyddid hwy lle nad oedd Eglwys yn gyfleus. Diau eu bod yn lled ddiaddurn ar y cyntaf, ond y mae'r ychydig sy'n weddill heddiw wedi eu haddurno'n hardd. Y mae'r rhan fwyaf o'r rhai sydd ar gael i'w gweled yn Eglwysi Dyffryn y Rhein. Gan y Pab y ceid caniatâd neilltuol i unigolion neu sefydliadau fel mynachdai ddefnyddio allorau o'r fath. Gwel tudalen 282. O Scheida, yn agos i Cologne, y daeth yr allor a ddarlunir yma. [Bloc gan Wasg Rhydychen.] Tudalen 208

AR Y FFORDD I'R FARCHNAD: Darlun wedi ei gymryd allan o ffenestr liwiedig mewn eglwys yn La Tournay, Ffrainc. Darlun yw o nifer of bobl yn croesi pont ar eu ffordd i'r dref. Ar y bont saif y toll gasglydd yn codi y pontagium o bosibl. A barnu oddi wrth ei wisg ac ymddygiad cwrtais y gwladwr tuag ato, ymddengys fel pe buasai yn ŵr o safle. Yng nghanol y darlun ceir y fuwch a'r moch, a thu ôl iddynt wraig yr amaethwr yn cario oen ar gefn ei merlen. Ar y chwith gwelir y brethynnwr ar gefn merlen a'i was a'i gap isel a'i becynnod ar gefn mul. Y tu ôl iddynt gwelir yr afon a chychod arni a'r cei o bob tu. O Lacroix and Serre Moyen Age et la Renaissance. Tudalen 211

CROES CEGIDFA: Deuwyd ar draws yr hen groes orymdeithiol hon wrth dorri bedd ym mynwent Cegidfa, Sir Drefaldwyn, ym mis Ebrill, 1873. Adwaenir y math yma ar groes fel croes "fleuri," am fod y breichiau a'r pen yn diweddu ar lun fleur-de-lis. Ar un ochr i'r groes ceir darlun o'r Gwaredwr a'r traed wedi eu croesi-ffurf oedd yn lled gyffredin mewn darluniau o'r groes yn y 14eg ganrif. O'Y "Mont. Coll.", VI, 407. Tudalen 213