BRAS GYNLLUN O FYNACHLOG SISTERSIAIDD. Tudalen 271
TINTERN (y Ffenestr Ddwyreiniol): Rhydd y darlun hwn o un o gampweithiau yr oesau canol syniad da i ni am geinder adeiladwaith y 13eg ganrif. Sylwer fel y mae'r pileri wedi colli y praffter a'r pwysau oedd iddynt mewn adeiladau Normanaidd, ac fel y neidia y bwa maen o'r piler rhanedig fel pe byddai wialen blygedig. Y mae'r ffenestr yn 60 troedfedd o uchder ac yn ffodus fe erys y post canol ar ychydig o'r rhwyllwaith godidog a gyfansoddai ei fwa. Tudalen 274
TINTERN (y Ffenestr Orllewinol): Y mae mwy o'r rhwyllwaith yn aros yn y ffenestr hon ac edrych mor llednais bron a phe byddai waith edau a nodwydd. Tudalen 278
YR ABAD DAFYDD AB OWAIN: Darlun o Abad Ystrad Marchell a Chonwy yn ei wisg fel Esgob Llanelwy. Daeth yn Esgob Llanelwy yn 1503, ac yno y mae ei gerflun. Diddorol sylwi fod ei ragflaenydd, Dafydd ap Iorwerth, cyn ei wneud yn esgob yn abad Glyn y Groes. Gan fod y Palas yn Llanelwy wedi ei lwyr ddinistrio yn ystod cyfnod gwrthryfel Glyn Dŵr, parhaodd yr abadau i fyw yn eu Habatai yn ystod eu tymor fel esgobion. Ond ymrodd yr Esgob Owain i ail adeiladu'r Palas. O'r Mont. Coll.", VI, 361. Tudalen 280
GOODLY PAIR OF ORGAYNES: Gwêl tudalen 284. O'r Utrecht Psalter, 1130- 1174 [Bloc gan Mri. Macmillan a'i Gyf.] Tudalen 283
PAX BREDE Arferai'r cymunwyr yn yr eglwys fore, ar ôl gwasanaeth yr offeren, gusanu ei gilydd yn unol â gorchymyn yr apostol—"Annerchwch y naill a'r llall â chusan sanctaidd" (Rhuf. xvi, 16), ond yn lled gynnar fe dyfodd yr arfer o gusanu rhyw wrthrych arbennig. Panel bychan ac arno ddarlun o'r Croeshoeliad, o'r Drindod, o'r Fair Fendigaid, neu rhyw un o'r apostolion a fyddai y Pax Brede neu'r Pax Boarde yr Ystyllen Heddwch. Yr oeddynt yn gyffredin iawn yn y 15eg ganrif. O'r B.M. Guide to Med. Antiquities, p. 210. Bloc gan Wasg Rhydychen.] Tudalen 285
Y WISG DDUR: Ceir darluniau o'r llafnau yn y Bayeux Tapestry, ond nid oes sicrwydd mai llafnau dur oeddynt. Tybia rhai mai darnau o ledr ydynt wedi eu gwnio ar y wisg, tra y myn eraill mai modrwyau dur ydynt, ac mai dyma'r ffordd o'u dangos mewn gwaith edau a nodwydd. Cafwyd y modrwyau dur, a ddengys yn glir iawn y modd yr asid y modrwyau yn ei gilydd, mewn bedd yng Nghaerloyw. Tudalen 289
ARBLAST NEU FWA CROES: O'r 12-14eg oedd cyfnod y bwa croes, ac fe'i hystyrid yn erfyn mor annynol fel y pasiodd cyngor Lateran (1139) na ddylid ei ddefnyddio gan Gristnogion. Tudalen 293
PLAS YN DINAS, LLANSANTFFRAID YM MECHAIN: Nid oes yn aros bellach ond y domen lle y safai Plas "Ian de Galles" gynt. Tudalen 299
SYR JOHN LE BOTILER, C. 1285: Oddi ar ei garreg fedd yn Eglwys St. Bride, Sir Forgannwg. Enghraifft ddiddorol iawn o farchog wedi ei wisgo o'i gorun i'w sawdl mewn gwisg o mailles, hynny yw o ddolennau o ddur wedi eu gwau yn ei gilydd. Nid ymddengys oddi wrth y darlun fod unrhyw doriad rhwng y camail—y benwisg, a'r hauberk, yr adran oedd yn cuddio y corff, nac ychwaith rhwng yr adran honno a'r llodrau—chausses; ond rhaid bod un yn rhywle