neu ni allsai gŵr ei rhoi amdano. Edrych yn y darlun fel pe bai yn un gwnïad drwyddi. Dros y wisg ddur ceir surcot laes. Ar y cyntaf ni chyrhaeddai y surcot yn is na'r penglin, ond erbyn diwedd y 13eg ganrif yr oedd wedi llaesu ac fe'i cwtogwyd yn ddiweddarach. Wrth gwrs, yr oedd gwisg arall o dan y wisg ddur a adwaenid fel y gambeson. Gwisg o ryw ddefnydd arall fyddai honno, wedi ei chwiltio a'i llenwi â gwlân neu rywbeth cyffelyb, ond nid oes argoel ohoni yn y darlun hwn. Sylwer ar y cwpanau ar y darian, ac ar y benwisg fel awgrym o darddiad yr enw. Am gopi gwel" Archaeologia Cambrensis," 5th Series, VII, td. 104. [O Cutts Manual of Sepulchral Slabs and Crosses," Platexxxii.] Tudalen 300
CERFLUN O FARCHOG CYMREIG A'I ENW AR YMYL EI DARIAN: Y mae'r arysgrif yn aneglur bellach, ond dywed Pennant mai" Hic jacet Edwart oedd y geiriau, a thybiodd ef a llawer ar ei ôl mai cerflun Iorwerth Drwyndwn oedd; ond fel y dengys Dr. Lloyd, ym Mhenmachno yr huna Iorwerth, ac mae'n bosibl mai un o ddisgynyddion Rhiryd Flaidd oedd hwn. Lloyd II, 550, Note 69. Yn eglwys Pennant Melangell y mae'r cerflun. O'r "Arch. Cambrensis," V, XI, p. 142. Tudalen 302
CERFLUN YN EGLWYS TREFALDWYN: Cerflun o ŵr wedi ei wisgo yn arfogaeth dechrau y 15eg ganrif. Am y pen ceir helm mwy neu lai pigfain wedi ei haddurno a thorch o flodau yr orle. Ni ddaeth yr orle i arfer gyffredin hyd chwarter cyntaf y 15eg ganrif. Am y gwddf ceir y camaille, gweddill yr hen wisg o wead dur wisgid am yr holl gorff unwaith fel yng ngherflun Botiler. Gorchuddir y corff â phlatiau dur, ac mae menyg dur am y dwylaw. Gorffwys y pen ar helm arall— dyma'r helm a ddefnyddid yn yr ymrysonau cyfeillgar—twrnameint— ac ar ben honno y mae tusw o blu yn codi allan o goron. Dyma ran o beisarfau y Mortimeriaid: "Mortimer beryth to his crest a bushe of blewe fethers in a crowne gold manteled asur doubled silver." (Arch. Cam., June, 1925, 75).
Gorchuddir y corff gan blatiau dur a thros y rheini y mae siaced (jupon) yn ffitio yn dynn am y canol, yn ôl arfer y cyfnod; ar hon y mae darlun o darian y teulu, ac ar draws y darian y mae band croes (bend neu bendlet) yn arwyddo er fod y gŵr o linach y Mortimeriaid, nad y fo oedd yr aer. Ceir awgrymiad i'r un cyfeiriad ar grib yr helm, meddai Mr. W. J. Hemp (Arch. Camb., ibid., td. 77), ond nid yw yn amlwg yn y darlun, ac ar gyfrif hyn tybia Mr. Hemp y dichon mai cerflun Syr Edmund Mortimer, mab yng nghyfraith Glyn Dŵr, yw. Y mae'r wregys (baudrich) wedi ei haddurno'n wych, ond y mae'r cleddyf oedd ynghrog wrthi wedi torri. O'r "Mont. Coll.", VI, 435— Tudalen 304
CERFLUN RHIWABON: Cerflun o John ap Elis Eyton, a fu farw yn 1526. Ar yr un beddfaen ceir cerflun o'i wraig, Eliz. Calfley, a fu farw yn 1524.
Sylwer nad oes helm am ben y cerflun hwn, ond ceir rhywbeth tebyg i gapan neu benwisg wedi ei gwiltio a'i lenwi â gwlân neu rywbeth cyffelyb, rhag i'r helm wasgu a dolurio'r pen. Ar wahân i hyn, y mae'r gwrthrych wedi ei ddilladu yn gyfangwbl mewn platiau dur. Ond o graffu ar y darlun, gellir gweld fod yr hen wisg o wead dur yn cael ei gwisgo eto. Daeth yn ei hôl ar ôl bod allan o'r ffasiwn am ryw ysbaid o gan mlynedd. Gellir ei gweld wrth y gwddf a hefyd yng ngodre'r wisg. Edrych fel pe byddai amddiffyniad i'r gwddf (neck guard), yn rhwym wrth y platiau a orchuddiai'r ysgwyddau. Sylwer ar y modd cywrain y gweithid y menyg. Byddai llun o'r ewinedd, fel rheol, wedi ei dynnu ar y dur. Y mae'r esgid o ddur, ond à thrwyn yn grwn ac nid
yn bigfain fel y bu. Nodweddir y wisg hon, yn anad dim, gan y platiau