Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/469

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dur (tuilles) sydd yn hongian wrth y wregys ac yn diogelu'r gliniau, ac o graffu gellir gweld y modd y crogid hwy. Y mae'r gwregys oedd ar waelod y wisg—y baudrich (gweler cerflun Trefaldwyn)—wedi diflannu, a chrogir y cleddyf wrth wregys groes sydd yn gorffwys ar y glun dde. Sylwer fel y mae honno wedi ei haddurno yn ogystal a'r dorch sydd am ei wddf. Yn crogi wrth y torch ceir Rhosyn y Tuduriaid. Bu Eyton yn ymladd ym Mosworth, ac yr oedd o linach Tuduriaid Trefor ei hun. O'r Ancient Monuments Inventory," Denbigh, 177. [Bloc gan yr Office of Works.] Tudalen 306

MILWR CYMREIG Sylwer ar y bwa hir, ond prin, hwyrach, y rhydd y darlun i ni syniad clir iawn am rym yr arf hwnnw. [O'r Chapter House, Liber A, P.R.O.] Tudalen 308

CASTELL Y DRE WEN, CROESOSWALLT: Cartref Ffwg Fitzwarin, a saif yng nghanol pentref Whittington. Tudalen 312

CASTELL CARREG CENNIN: Castell a godwyd gan Dywysog Cymreig. Cymharer ei safle ag eiddo Castell Dinas Brân. Saif y castell hwn ar ben craig serth a ymgyfyd o un o'r dyffrynnoedd sy'n ymagor allan of Ddyffryn Tywi. Tudalen 314

CASTELL RICHARD, A SYCHARTH: Castell Richard yw un o'r cestyll Normanaidd hynaf yn y wlad, ac achosodd ei godi ar ororau Cymru gryn bryder i frenhinoedd y Saeson. Saif y castell yn swydd Henffordd, ar gyrion Sir Amwythig, heb fod nepell o Lwydlo. Adeiladwyd y Castell gan un Richard Fitzscrob yn nyddiau Edward Gyffesydd, ychydig flynyddoedd cyn y Goncwest. Nid oes wybod pa bryd yr adeiladwyd Sycharth, ond fe'i llosgwyd gan Dywysog Cymru yn 1402. Sylwer fel y mae'r tywysog Cymreig wedi mabwysiadu'r cynllun Normanaidd, ond gyda'r datblygiadau diweddarach, yn enwedig y Beili. [O Clark "Med. Mil. Arch." II, td. 402. Plan Sycharth yn sylfaenedig ar fesurau gymerwyd yn y lle.] Tudalen 316

CASTELL BIWMARES: Un o'r enghreifftiau gorau o'r castell cynghreiddiol a feddwn. Codwyd y castell ar forfa ym min y môr, ar draeth de— ddwyrain Môn, fel nad oes dim yn fanteisiol yn ei safle. Ar y llaw arall, cafodd yr adeiladydd bob rhyddid i'w gynllunio fel y mynnai heb gael ei lyffetheirio gan anfanteision y lle. Dibynnai nerth castell yn y fath le yn gyfangwbl ar ei gynllun, ac o ganlyniad perthyn i'r cynllun hwnnw unoliaeth ac unffurfiaeth nas ceir yng nghastell Conwy neu Gaernarfon. Mewn gwirionedd, y mae'r cynllun yn un hynod syml. O'r tu fewn ceir adeilad sgwâr yn mesur rhyw 50 llath bob ffordd, a thwr crwn ym mhob congl iddo, a thwr hefyd yng nghanol y mur dwyreiniol a deheuol, a dau dwr yn gwylio pob un o'r ddau fynedfa ym mur y gogledd a'r de. Y mae muriau yr adeilad hwn o 40 i 50 troedfedd o uchder. Y tu allan i'r adeilad hwn ceir mur arall a ffurfia fath o gylch wythonglog, gyda thwr ym mhob congl, yn ogystal à thwr ar ganol bob mur fel gyda'r adeilad sgwar o'r tu fewn. Nid yw y muriau hyn cyn uched o lawer â muriau'r adeilad o'r tu fewn. Adeilad sgwâr oddi fewn i adeilad wyth ochrog, yr oll wedi ei amgylchu gan ffos o ddŵr. Dyna yn fyr y cynllun cynghreiddiol fel ei gwelir ym Miwmares. [O "Clark Med. Mil. Arch," I, 215.] Tudalen 320

CASTELL CAERFFILI: Dyma'r castell eangaf yng Nghymru: dywedir ei fod yn sefyll ar 30 acr o dir. Y mae hefyd yn un o'r rhai perffeithiaf o ran ei gynllun, er, feallai, nid yw'r cynllun lawn mor amlwg ag yw ym Miwmares.