y ffaith i Siarlymaen yn y flwyddyn 800, ac Otto yn 962, dderbyn eu coronau o law'r Pab fod yr awdurdod gwladol yn cydnabod ei hawl. Mewn llythyr oddi wrth y Pab Gelasius at yr ymherodr Anastasius cyn gynhared â'r flwyddyn 494, pan oedd gallu eglwysig Rhufain yn dechrau codi ei ben, ceir yr haeriad hwn: Y mae dau awdurdod yn rheoli'r byd hwn, sef awdurdod cysegredig yr offeiriad a'r gallu brenhinol. Perthyn y flaenoriaeth i'r offeiriaid, gan y byddant hwy yn gyfrifol hyd yn oed dros y brenhinoedd yn y dydd diwethaf.[1] Ateb yr awdurdod gwladol i'r ddadl hon oedd bod brenhiniaeth hefyd o ddwyfol ordinhad, a dyfynnid geiriau'r Apostol Paul i brofi'r pwnc.
Dair gwaith o leiaf cododd ymrafael rhwng yr Ymherodr a'r Eglwys, a'r Eglwys a orfu bob tro. Y tu ôl i'r brwydrau hyn yr oedd y syniad, annelwig fe ddichon, mai un yn ei hanfod oedd bywyd y gorllewin, a chodai'r cwerylon o anhawster penderfynu pwy ddylai fod yn ben ar y bywyd unedig hwnnw. Bu'r taro cyntaf rhwng yr ymherodr Harri IV a'r Pab Gregori VII, a adwaenid cyn ei gysegru'n Bab wrth yr enw Hildebrand—un o wŷr mwyaf yr eglwys yn yr oesau canol. Cyn y gallai esgob dderbyn y tir a berthynai i'r esgobaeth, rhaid oedd iddo, ar ddydd ei arwisgo, dyngu llw o ffyddlondeb a theyrngarwch i'r brenin; ond yn synod 1075, penderfynodd Gregori yr esgymunai unrhyw frenin a feiddiai hawlio'r cyfryw lw oddi ar ei brelatiaid ef. Y canlyniad fu ymrafael rhwng y ddau allu, ac yn Canossa gorfu i Harri sefyll yn droednoeth yn yr eira cyn cael pardwn y Pab. Ond daeth tro ar fyd: bu farw'r Pab yn alltud a gwrth-bab yn eistedd yng nghadair Pedr yn ei le,[2] a Harri erbyn hyn yn feistr yn Rhufain.
Rhwng yr ymherodr Frederic—Cochfarf, fel y gelwid ef— a'r Pab Alecsander III y bu'r ail ymrafael. Frederic oedd y mwyaf o ddigon o'r gwŷr hynny a fu'n ceisio sylweddoli'r delfryd ymerodrol yn llawn, ond ar ôl cweryl a barhaodd am ddwy flynedd ar bymtheg, ac a rannodd y Babaeth yn ddwy, bu raid iddo yntau, yn 1176, wneuthur heddwch â'r Pab a chydnabod hawl yr eglwys i oruwchlywodraethu.
- ↑ Mansi Sacrorum Conciliorum Collectio, viii, 31.Am fanylion yr ymrafaelion hyn gweler unrhyw lyfr ar hanes Ewrop yn yr oesau canol, megis Tout: 'The Empire and the Papacy; The Cambridge Mediaeval History, Vol. V—Contest of Empire and Papacy; a Bryce: The Holy Roman Empire.
- ↑ "Cerais gyfiawnder a chaseais anwiredd, am hynny yr wyf yn marw yn alltud"—geiriau olaf Gregori. Bu farw ar y 25 o Fai, 1085.