Frederic II, ŵyr i'r Cochfarf, oedd yr olaf a fu mewn brwydr â'r Pab. Bu agos iddo a llwyddo lle methasai ei gyndadau, ond wedi ei farw gwelwyd bod y fuddugoliaeth, fel cynt, yn nwylo'r eglwys.
Rhed yr ymrafaelion hyn fel cadwyn trwy hanes yr oesau canol, ond er pwysiced ydynt yn hanes politicaidd y cyfnod, ni bu iddynt nemor ddim dylanwad ar y bywyd cymdeithasol, ac ymlithrai ffrwd bywyd cyffredin ymlaen yn weddol ddistŵr heb roi ond ychydig iawn o sylw iddynt.

Yr oedd bywyd eglwysig yn fwy unffurf yn yr oesau canol nag y bu mewn unrhyw gyfnod na chynt nac wedyn. Ni bu'r syniad am adfywio'r ymerodraeth namyn breuddwyd neu hunllef yn torri ar dawelwch bywyd y gwledydd, ond yr oedd unoliaeth yr eglwys yn ffaith fyw a gwirioneddol. Fel y curiai bywyd yr hen ymerodraeth, ymheangai dylanwad esgob Rhufain nes o'r diwedd i holl wledydd y gorllewin gydnabod ei awdurdod yn y cylch eglwysig. Yr eglwys unedig hon, yn bennaf, biau'r clod am adfer gwareiddiad y gorllewin. Hyhi, o fwriad neu ar ddamwain, a gadwodd yn fyw draddodiad ysgolheictod, er bod llawer ymhlith yr esgobion cyntaf na wyddent nemor ddim am na dysg na diwylliant, a llawer hefyd yn credu bod cryn berygl mewn